xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Ar y diwrnod penodedig ac ar ôl hynny, ni all unrhyw denantiaeth na thrwydded (pryd bynnag y’i gwnaed) fod yn—
(a)contract cyfyngedig;
(b)tenantiaeth fyrddaliol warchodedig;
(c)tenantiaeth ddiogel;
(d)tenantiaeth sicr (sy’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr);
(e)tenantiaeth ragarweiniol;
(f)tenantiaeth isradd.
(2)Pe gallai’r landlord o dan denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi adennill meddiant o’r tŷ annedd sy’n ddarostyngedig i’r denantiaeth o dan Achos 19 o Atodlen 15 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (tenantiaethau byrddaliol gwarchodedig blaenorol), mae’r denantiaeth yn peidio â bod yn denantiaeth warchodedig neu’n denantiaeth statudol ar y diwrnod penodedig.
(3)Nid oes dim yn yr adran hon yn terfynu tenantiaeth neu drwydded sydd o fewn is-adran (1) neu (2).
(1)At ddibenion penderfynu ar y materion yn is-adran (2), mae tenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig i’w thrin fel pe bai wedi ei gwneud ar y diwrnod penodedig.
(2)Y materion yw—
(a)pa un a yw’r denantiaeth neu’r drwydded yn gontract meddiannaeth,
(b)pwy yw deiliaid y contract o dan y contract, ac
(c)a yw’r contract yn gontract diogel neu’n gontract safonol.
(3)Mae is-adrannau (4) i (7) yn gymwys i denantiaeth neu drwydded sy’n dod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.
(4)Mae’r darpariaethau sylfaenol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract.
(5)Mae telerau presennol y contract yn parhau i gael effaith, ac eithrio i’r graddau y maent—
(a)yn anghydnaws â darpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau’r contract, neu
(b)yn delerau’r contract oherwydd deddfiad a ddiddymir neu a ddirymir o dan y Ddeddf hon.
(6)Mae’r darpariaethau atodol sy’n gymwys i’r contract wedi eu hymgorffori fel telerau o’r contract, ac eithrio i’r graddau y maent yn anghydnaws â thelerau presennol y contract.
(7)Mae’r adran hon yn ddarostyngedig i Atodlen 12 (sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau sydd eisoes yn bodoli, sy’n addasu’r modd y cymhwysir y Ddeddf hon, ac sy’n cynnwys darpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol penodol).
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan wneir, ar neu ar ôl y diwrnod penodedig, denantiaeth neu drwydded yn unol â chontract a wnaed cyn y diwrnod y gwneir y gorchymyn sy’n pennu’r diwrnod penodedig gan Weinidogion Cymru.
(2)Mae adran 240 ac Atodlen 12 yn gymwys i’r denantiaeth neu’r drwydded—
(a)fel pe bai wedi ei gwneud ar y diwrnod penodedig, a
(b)fel pe bai, yn union cyn y diwrnod hwnnw, yn denantiaeth neu’n drwydded o’r math y byddai wedi bod ar y diwrnod hwnnw oni bai am y Ddeddf hon.
(3)Nid yw paragraffau 2(3), 4(1) a (3), 11, 12, 13 a 23(3) a (7) o Atodlen 12 yn gymwys mewn perthynas â’r denantiaeth neu’r drwydded.
Yn y Bennod hon—
“y diwrnod penodedig” (“the appointed day”) yw’r diwrnod a bennir o dan adran 257 fel y diwrnod y daw adran 239 i rym;
mae i “tenantiaeth ddiogel” yr ystyr sydd i “secure tenancy” yn Neddf Tai 1985 (p. 68), ond nid yw’n cynnwys tenantiaeth cymdeithas dai o fewn ystyr adran 86 o Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42);
mae i “tenantiaeth fyrddaliol sicr” yr ystyr sydd i “assured shorthold tenancy” yn Neddf Tai 1988 (p. 50)
mae i “tenantiaeth fyrddaliol warchodedig”, “tenantiaeth warchodedig”, “contract cyfyngedig” a “tenantiaeth statudol” yr ystyr sydd i “protected shorthold tenancy”, “protected tenancy”, “restricted contract” a “statutory tenancy” yn Neddf Rhenti 1977;
ystyr “tenantiaeth isradd” (“demoted tenancy”) yw tenantiaeth y mae adran 143A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) yn berthnasol iddi;
mae i “tenantiaeth ragarweiniol” yr ystyr sydd i “introductory tenancy”yn Neddf Tai 1996;
mae i “tenantiaeth sicr” yr ystyr sydd i “assured tenancy”yn Neddf Tai 1988 (ac mae’n cynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).