6Pŵer i wneud rheoliadau uno
(1)Pan wneir cais i Weinidogion Cymru o dan adran 3(1) caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, wneud rheoliadau ar gyfer cyfansoddiad prif ardal newydd drwy uno, i greu prif ardal newydd, brif ardaloedd y prif awdurdodau lleol a wnaeth y cais.
(2)Rhaid i reoliadau uno wneud darpariaeth ar gyfer—
(a)sefydlu’r brif ardal newydd a diddymu’r prif ardaloedd presennol,
(b)ffin y brif ardal newydd,
(c)enw Cymraeg ac enw Saesneg y brif ardal newydd,
(d)pa un a yw’r brif ardal newydd i fod yn sir neu’n fwrdeistref sirol,
(e)sefydlu, fel cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal newydd,
(f)enw Cymraeg ac enw Saesneg y prif awdurdod lleol newydd,
(g)trosglwyddo swyddogaethau’r awdurdodau sy’n uno i’r prif awdurdod lleol newydd, ac
(h)dirwyn i ben a diddymu’r awdurdodau sy’n uno.
(3)Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn sir, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu y bydd y prif awdurdod lleol newydd yn cael enw’r sir ynghyd ag—
(a)yn achos yr enw Saesneg, y geiriau “County Council” neu’r gair “Council”, a
(b)yn achos yr enw Cymraeg, y geiriau “Cyngor Sir” neu’r gair “Cyngor”.
(4)Pan fo’r brif ardal newydd i fod yn fwrdeistref sirol, rhaid i’r rheoliadau uno ddarparu y bydd y prif awdurdod lleol newydd yn cael enw’r bwrdeistref sirol ynghyd ag—
(a)yn achos yr enw Saesneg, y geiriau “County Borough Council” neu’r gair “Council”, a
(b)yn achos yr enw Cymraeg, y geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol” neu’r gair “Cyngor”.