Atodol
44Rheoliadau
1
Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
2
Ni chaniateir i reoliadau uno a rheoliadau o dan adran 10 neu 11 gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
3
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 24 neu 35(4) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.