Awdurdodau lleol sy’n uno’n wirfoddol

4Ymgynghori cyn gwneud cais i uno

(1)Cyn i brif awdurdodau lleol wneud cais o dan adran 3(1) rhaid i’r prif awdurdodau lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)aelodau’r cyhoedd mewn unrhyw brif ardal y mae’r cynnig i uno yn debygol o effeithio arni (“ardal yr effeithir arni”),

(b)y prif awdurdodau lleol ar gyfer ardaloedd yr effeithir arnynt a chynghorau ar gyfer cymunedau mewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(c)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(d)prif swyddog yr heddlu a’r comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer unrhyw ardal heddlu sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(e)yr awdurdod tân ac achub ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(f)y bwrdd iechyd lleol ar gyfer unrhyw ardal sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn unrhyw ardal yr effeithir arni,

(g)pob undeb llafur a gydnabyddir (o fewn yr ystyr a roddir i “recognised” yn Neddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992) gan un neu ragor o’r prif awdurdodau lleol, ac

(h)unrhyw bersonau eraill y mae’r prif awdurdodau lleol o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Rhaid bodloni is-adran (1) mewn perthynas â chais a wneir cyn i’r adran hon ddod i rym (yn ogystal â chais a wneir ar ôl hynny); a rhaid i unrhyw ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym fodloni gofynion yr is-adran honno.