Search Legislation

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Trefniadau etholiadol etc. ar gyfer prif ardaloedd newydd

16Cyfarwyddydau i gynnal adolygiad cychwynnol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol drwy gyfarwyddyd i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) gynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig.

(2)Yn y Ddeddf hon ystyr “adolygiad cychwynnol”, mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig, yw adolygiad a gynhelir at ddiben argymell trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig ond caiff hefyd gynnwys unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol sy’n briodol ym marn y Comisiwn.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “newidiadau canlyniadol perthnasol”, mewn perthynas â threfniadau etholiadol a argymhellir ar gyfer prif ardal arfaethedig, yw newidiadau yn—

(a)ffiniau cymunedau yn y brif ardal arfaethedig,

(b)cyfansoddiad cynghorau ar gyfer cymunedau, neu gynghorau cyffredin ar gyfer grwpiau o gymunedau, yn y brif ardal arfaethedig, neu

(c)trefniadau etholiadol ar gyfer cymunedau yn y brif ardal arfaethedig.

(4)Yn y Ddeddf hon ystyr “trefniadau etholiadol”, mewn perthynas â phrif ardal neu gymuned, yw—

(a)nifer aelodau’r cyngor ar gyfer y brif ardal neu’r gymuned,

(b)ei rhaniad yn wardiau etholiadol yn achos y brif ardal, ac (os yw’n briodol) yn wardiau cymuned yn achos cymuned, ar gyfer ethol aelodau,

(c)nifer, math a ffiniau’r wardiau etholiadol, ac unrhyw wardiau cymuned, y mae’r brif ardal neu unrhyw gymuned yn y brif ardal i gael ei rhannu iddynt at ddiben ethol aelodau,

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol ar gyfer unrhyw ward etholiadol neu ward gymuned, ac

(e)enw unrhyw ward etholiadol neu ward gymuned.

(5)Yn is-adran (4)(c) mae’r cyfeiriad at y math o ward etholiadol neu ward gymuned yn gyfeiriad at ba un a yw ward etholiadol neu ward gymuned yn ward un aelod neu’n ward amlaelod; ac at y diben hwn—

  • ystyr “ward amlaelod”(“multiple member ward”) yw ward y mae nifer penodedig (mwy nag un) o aelodau i’w hethol ar gyfer y ward honno;

  • ystyr “ward un aelod” (“single member ward”) yw ward y mae un aelod yn unig i’w ethol ar ei chyfer.

17Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Comisiwn

(1)Rhaid i gyfarwyddyd o dan adran 16 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn gynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig bennu erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i’r Comisiwn gyflwyno i Weinidogion Cymru o dan is-adran (4)(a) o adran 21 yr adroddiad a baratowyd ganddo o dan yr adran honno.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan adran 16 ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn roi sylw i faterion penodol a bennir yn y cyfarwyddyd wrth gynnal yr adolygiad cychwynnol sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddydau cyffredinol ynghylch cynnal adolygiadau cychwynnol, gan gynnwys—

(a)darpariaeth ynghylch ym mha drefn y mae gwahanol adolygiadau cychwynnol sy’n ofynnol gan gyfarwyddydau o dan adran 16 i’w cynnal, a

(b)darpariaeth sy’n pennu’r materion y mae’r Comisiwn i roi sylw iddynt wrth gynnal adolygiadau cychwynnol.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ac unrhyw gymdeithas yr ymddengys iddynt ei bod yn cynrychioli awdurdodau lleol.

(5)Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd o dan adran 16 neu’r adran hon ar unrhyw adeg drwy gyfarwyddyd dilynol.

(6)Caniateir (yn benodol) i gyfarwyddyd o dan adran 16 mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig gael ei roi ar ôl cyhoeddi argymhelliad y Comisiwn ar adolygiad cychwynnol a gynhaliwyd mewn perthynas â’r brif ardal arfaethedig yn unol â chyfarwyddyd blaenorol o dan yr adran honno.

(7)Rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan adran 16 neu’r adran hon.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch cynnal adolygiadau cychwynnol gan y Comisiwn ac wrth gynnal adolygiad cychwynnol rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon.

18Cynnal adolygiad cychwynnol

(1)Wrth gynnal adolygiad cychwynnol rhaid i’r Comisiwn geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a hwylus.

(2)Caiff cyfarwyddydau a roddir a chanllawiau a ddyroddir o dan adran 17 bennu beth yw ystyr llywodraeth leol effeithiol a hwylus at ddibenion is-adran (1).

(3)Rhaid i’r Comisiwn, wrth ystyried y trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal arfaethedig mewn adolygiad cychwynnol—

(a)ceisio sicrhau bod yr un gymhareb o etholwyr llywodraeth leol i nifer aelodau’r prif awdurdod lleol sydd i’w hethol ym mhob ward etholiadol o’r brif ardal arfaethedig, neu mor agos ag y gall fod, a

(b)rhoi sylw i’r canlynol—

(i)dymunoldeb pennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol sy’n hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly, a

(ii)dymunoldeb peidio â thorri’r cwlwm lleol wrth bennu ffiniau ar gyfer wardiau etholiadol.

(4)At ddibenion is-adran (3)(a) mae sylw i gael ei roi i’r canlynol—

(a)unrhyw anghysondeb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sy’n gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol), a

(b)unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad etholwyr llywodraeth leol yn y brif ardal arfaethedig sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud argymhellion.

(5)Wrth ystyried mewn adolygiad cychwynnol a ddylid, fel rhan o unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, rannu cymuned yn wardiau cymuned o ganlyniad i’r trefniadau etholiadol a argymhellir ar gyfer y brif ardal arfaethedig, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)a yw nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned yn gwneud un etholiad ar gyfer cynghorwyr cymuned yn anymarferol neu’n anghyfleus, a

(b)a yw’n ddymunol i unrhyw ardal o’r gymuned gael cynrychiolaeth ar wahân ar y cyngor cymuned.

(6)Pan benderfynir, mewn adolygiad cychwynnol, y dylid rhannu cymuned yn wardiau cymuned, fel rhan o unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, wrth ystyried maint a ffiniau’r wardiau ac wrth bennu nifer y cynghorwyr cymuned sydd i’w hethol ar gyfer pob ward, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl gwneud unrhyw argymhellion,

(b)dymunoldeb pennu ffiniau sy’n hawdd eu hadnabod ac a fyddant yn parhau felly, ac

(c)unrhyw gwlwm lleol a fydd yn cael ei dorri wrth bennu unrhyw ffiniau penodol.

(7)Pan benderfynir, mewn adolygiad cychwynnol, fel rhan o unrhyw newidiadau canlyniadol perthnasol, na ddylai cymuned gael ei rhannu yn wardiau cymuned, wrth bennu nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol ar gyfer pob cymuned, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)nifer a dosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned, a

(b)unrhyw newid yn nifer neu ddosbarthiad yr etholwyr llywodraeth leol yn y gymuned sy’n debygol o ddigwydd yn y cyfnod o bum mlynedd yn union ar ôl pennu nifer y cynghorwyr cymuned.

(8)At ddibenion is-adrannau (5) i (7) rhaid rhoi sylw i unrhyw anghysondeb rhwng nifer yr etholwyr llywodraeth leol a nifer y personau sy’n gymwys i fod yn etholwyr llywodraeth leol (fel a welir mewn ystadegau swyddogol perthnasol).

(9)Yn yr adran hon—

  • ystyr “etholwr llywodraeth leol” (“local government elector”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n etholwr llywodraeth leol yn y gofrestr etholwyr yn unol â darpariaethau Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl;

  • ystyr “ystadegau swyddogol perthnasol” yw’r ystadegau swyddogol hynny o fewn yr ystyr a roddir i “relevant official statistics” yn adran 6 o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.

19Y weithdrefn ragadolygu

(1)Cyn cynnal adolygiad cychwynnol o brif ardal arfaethedig, rhaid i’r Comisiwn gymryd y camau hynny y mae o’r farn eu bod yn briodol er mwyn—

(a)dwyn yr adolygiad i sylw’r ymgyngoreion mandadol ac unrhyw bersonau eraill y mae o’r farn ei bod yn debygol bod ganddynt fuddiant yn yr adolygiad, a

(b)gwneud yr ymgyngoreion mandadol a’r personau eraill sydd â buddiant yn ymwybodol o’r cyfarwyddyd i gynnal yr adolygiad ac unrhyw gyfarwyddydau eraill a roddir gan Weinidogion Cymru sy’n berthnasol i’r adolygiad.

(2)Cyn cynnal adolygiad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn hefyd ymgynghori â’r ymgyngoreion mandadol ar y weithdrefn a’r fethodoleg a fwriedir ganddo ar gyfer yr adolygiad cychwynnol ac, yn benodol, sut y mae’n bwriadu penderfynu ar nifer priodol yr aelodau ar gyfer y prif awdurdod lleol yn y brif ardal arfaethedig.

(3)Yn y Ddeddf hon ystyr “yr ymgyngoreion mandadol” yw—

(a)y prif awdurdodau lleol y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i greu’r brif ardal arfaethedig a’r cynghorau ar gyfer unrhyw gymuned bresennol neu gymunedau presennol yn y brif ardal arfaethedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru yn y cyfarwyddyd i gynnal yr adolygiad.

20Ymgynghori ac ymchwilio

(1)Wrth gynnal ymchwiliad cychwynnol, rhaid i’r Comisiwn gynnal yr ymchwiliadau hynny y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol.

(2)Ar ôl cynnal yr ymchwiliadau o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn lunio adroddiad sy’n cynnwys—

(a)y cynigion y mae o’r farn eu bod yn briodol o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig ac unrhyw gynigion y caiff farnu eu bod yn briodol ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol, a

(b)manylion yr adolygiad y mae wedi ei gynnal.

(3)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyhoeddi’r adroddiad ar wefan,

(b)sicrhau bod yr adroddiad ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd y prif awdurdodau lleol y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i greu’r brif ardal arfaethedig ar hyd y cyfnod ar gyfer sylwadau,

(c)anfon copïau o’r adroddiad at Weinidogion Cymru a’r ymgyngoreion mandadol,

(d)hysbysu unrhyw bersonau y mae’r Comisiwn yn eu hystyried yn briodol sut i gael copi o’r adroddiad, ac

(e)gwahodd sylwadau a hysbysu Gweinidogion Cymru, yr ymgyngoreion mandadol ac unrhyw bersonau y mae’r Comisiwn yn eu hystyried yn briodol am y cyfnod ar gyfer sylwadau.

(4)At ddibenion is-adran (3) “y cyfnod ar gyfer sylwadau” yw cyfnod nad yw’n llai na 6 wythnos nac yn hwy na 12 wythnos (fel a benderfynir gan y Comisiwn) sy’n dechrau yn ddim cynt nag un wythnos ar ôl rhoi hysbysiad am y cyfnod.

21Adrodd ar adolygiad cychwynnol

(1)Rhaid i’r Comisiwn, ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau o dan adran 20(3) ddod i ben, ystyried ei gynigion gan roi sylw i unrhyw sylwadau a gafwyd ganddo yn ystod y cyfnod.

(2)Yna rhaid i’r Comisiwn lunio adroddiad pellach.

(3)Rhaid i’r adroddiad gynnwys—

(a)yr argymhellion y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig ac unrhyw argymhellion y caiff y Comisiwn farnu eu bod yn briodol ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol,

(b)manylion yr adolygiad a’r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn cysylltiad â’r cynigion, ac

(c)manylion unrhyw newidiadau i’r cynigion a wnaed yng ngoleuni’r sylwadau a gafwyd ac esboniad paham y gwnaed y newidiadau hynny.

(4)Rhaid i’r Comisiwn—

(a)cyflwyno’r adroddiad a’i argymhellion i Weinidogion Cymru,

(b)cyhoeddi’r adroddiad ar wefan a sicrhau ei fod ar gael i edrych arno (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd y prif awdurdodau lleol y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i greu’r brif ardal arfaethedig am gyfnod o 6 wythnos o leiaf gan ddechrau â’r dyddiad cyhoeddi,

(c)anfon copi o’r adroddiad at yr ymgyngoreion mandadol a’r Arolwg Ordnans, a

(d)hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth neu a wnaeth sylwadau mewn perthynas â’r adroddiad a gyhoeddwyd o dan adran 20 sut i gael copi o’r adroddiad.

(5)Nid yw adran 29(8) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dim argymhellion i gael eu gwneud neu eu cyhoeddi yn y 9 mis cyn etholiad cyffredin) yn gymwys yn achos argymhellion o dan yr adran hon.

22Gweithredu gan Weinidogion Cymru

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt gael adroddiad sy’n cynnwys argymhellion oddi wrth y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad cychwynnol, weithredu unrhyw argymhelliad a gynhwysir yn yr adroddiad drwy reoliadau, gydag addasiadau neu hebddynt.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ond weithredu argymhelliad gydag addasiadau os ydynt wedi ystyried y materion a ddisgrifir yn adran 18 ac wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud yr addasiadau.

(3)Ni chaniateir gwneud unrhyw reoliadau o dan is-adran (1) nes bod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoedda’r Comisiwn yr adroddiad o dan adran 21 wedi dod i ben.

(4)Rhaid i’r Comisiwn roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth bellach mewn perthynas ag argymhellion y Comisiwn y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu rheoliadau o dan is-adran (1) (neu’r is-adran hon) drwy reoliadau.

23Rheoliadau etholiadol os na wneir unrhyw argymhellion

(1)Os nad yw’r Comisiwn wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru sy’n cynnwys argymhellion gan y Comisiwn mewn perthynas ag adolygiad cychwynnol sy’n ymwneud â phrif ardal arfaethedig erbyn y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol ei gynnal, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-⁠adran (2).

(2)Caiff Weinidogion Cymru drwy reoliadau wneud y ddarpariaeth y maent o’r farn ei bod yn briodol o ran y trefniadau etholiadol ar gyfer y brif ardal arfaethedig ac unrhyw ddarpariaeth y maent o’r farn ei bod yn briodol ar gyfer newidiadau canlyniadol perthnasol.

(3)Rhaid i’r Comisiwn roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw faterion sydd wedi dod i’w sylw o ganlyniad i—

(a)unrhyw ymgynghoriad o dan adran 19,

(b)unrhyw ymchwiliad o dan adran 20,

(c)paratoi adroddiad o dan adran 20 neu 21, neu

(d)unrhyw beth arall a wnaed wrth gynnal yr adolygiad cychwynnol,

fel y bo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn rhesymol ofynnol.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2) mewn perthynas â phrif ardal arfaethedig, rhaid i’r Comisiwn gynnal ei adolygiad cyntaf o’r brif ardal o dan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 cyn gynted â phosibl ar ôl diwrnod yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr i’r prif awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal a, sut bynnag, cyn diwrnod yr un nesaf.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru amrywio neu ddirymu rheoliadau o dan is-adran (2) (neu’r is-adran hon) drwy reoliadau.

24Cyfnodau adolygu yn y dyfodol

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3) o adran 29 o Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (cyfnodau adolygu o 10 mlynedd) drwy reoliadau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources