Trefniadau cydnabyddiaeth ariannol etc. ar gyfer prif awdurdodau lleol newydd

25Cyfarwyddydau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i gyflawni swyddogaethau perthnasol

1

Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) fod yn rhaid iddo gyflawni’r swyddogaethau perthnasol—

a

mewn perthynas ag awdurdod cysgodol, a

b

mewn perthynas â phrif awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf y bydd yn brif awdurdod lleol yn rhinwedd rheoliadau uno neu ddarpariaethau Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

2

Y swyddogaethau perthnasol yw’r swyddogaethau o dan—

a

adran 142 (pwerau a dyletswyddau sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau), a

b

adran 143 (swyddogaethau sy’n ymwneud â phensiynau aelodau),

o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

3

Mae Rhan 8 o’r Mesur hwnnw yn gymwys, felly, yn achos awdurdod cysgodol y rhoddwyd cyfarwyddyd mewn perthynas ag ef o dan is-adran (1)(a) (am ba hyd bynnag ag y bydd y cyfarwyddyd yn cael effaith) fel pe bai’n awdurdod perthnasol o fewn ystyr y Rhan honno o’r Mesur hwnnw; ond wrth ei gymhwyso yn rhinwedd yr is-adran hon mae Rhan 8 yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

a

yr addasiadau yn is-adran (4), a

b

adran 26.

4

Dyma’r addasiadau—

a

yn adran 142(8) (ystyriaeth i gael ei rhoi i’r effaith ariannol ar awdurdodau perthnasol), mae’r cyfeiriad at “awdurdodau perthnasol” i gynnwys awdurdodau cysgodol, a

b

mae’r pŵer i adroddiad blynyddol osod gofynion o dan adran 150(1) (osgoi dyblygu taliadau etc.) i fod yn ddyletswydd i adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol osod y gofynion hynny.

5

Wrth arfer swyddogaethau yn rhinwedd yr adran hon mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf y mae awdurdod yn brif awdurdod lleol yn rhinwedd rheoliadau uno, caiff y Panel

a

gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(1),

b

pennu symiau gwahanol o dan adran 142(3),

c

gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 142(4),

d

gosod canrannau gwahanol neu gyfraddau neu fynegrifau eraill o dan adran 142(6), ac

e

gwneud penderfyniadau gwahanol o dan adran 143(2) a (3),

mewn perthynas ag amserau cyn y bydd y prif awdurdod lleol yn cynnwys cynghorwyr a etholir yn yr etholiad cyffredin cyntaf ar gyfer cynghorwyr ac wedi hynny.

26Adroddiadau’r Panel

1

Rhaid i’r Panel gynnwys yn yr adroddiad cyntaf o dan Ran 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 sy’n ymwneud ag awdurdod a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 25(1) yr wybodaeth sy’n ymwneud â’r awdurdod a bennir yn adran 146(3) o’r Mesur hwnnw.

2

Caniateir cynnwys y materion y mae’n ofynnol eu cynnwys mewn adroddiad gan y Panel mewn perthynas ag awdurdod cysgodol mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol.

3

Os yw’r adroddiad cyntaf sy’n ymwneud ag awdurdod cysgodol yn adroddiad atodol, rhaid ei gyhoeddi o leiaf 6 wythnos cyn i’r awdurdod cysgodol gael ei sefydlu neu ei ethol.

4

Rhaid cynnwys y materion y mae’n ofynnol eu cynnwys mewn adroddiad gan y Panel mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf y bydd awdurdod yn brif awdurdod lleol yn adroddiad blynyddol y Panel ar gyfer y flwyddyn ariannol honno.

5

Ond, os yw’r Panel o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, gall, ar unrhyw adeg cyn y dyddiad y mae awdurdod sy’n brif awdurdod lleol yn rhinwedd rheoliadau uno yn cynnwys am y tro cyntaf gynghorwyr a etholwyd i’r prif awdurdod newydd, gyhoeddi adroddiad atodol mewn perthynas â’r rhan honno o’r flwyddyn ariannol gyntaf honno sy’n disgyn ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl.

27Cyfarwyddydau a chanllawiau i’r Panel

1

Caniateir amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd o dan adran 25 gan gyfarwyddyd dilynol ar unrhyw adeg.

2

Rhaid i’r Panel gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan adran 25.

3

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch y modd yr arfera’r Panel ei swyddogaethau yn unol ag adrannau 25 a 26; a rhaid i’r Panel, pan fo’n arfer ei swyddogaethau yn y modd hwnnw, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr is-adran hon.

28Datganiadau polisi tâl

1

Rhaid i bwyllgor pontio a sefydlir gan awdurdodau sy’n uno gyhoeddi argymhellion o ran y datganiadau polisi tâl sydd i’w paratoi gan yr awdurdod cysgodol ar gyfer y brif ardal y mae eu prif ardaloedd i gael eu huno i’w chreu.

2

Rhaid cyhoeddi’r argymhellion yn ddim hwyrach na 42 o ddyddiau cyn y dyddiad y sefydlir yr awdurdod cysgodol neu y cynhelir etholiadau ar gyfer yr awdurdod cysgodol.

3

Rhaid i awdurdod cysgodol baratoi a chymeradwyo datganiad polisi tâl (a chaiff ei ddiwygio) yn unol ag adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5) o Ddeddf Lleoliaeth 2011—

a

ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â chymeradwyo’r datganiad polisi tâl ac sy’n dod i ben yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, a

b

ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf y bydd prif awdurdod lleol ar gyfer y brif ardal newydd.

4

Ni chaniatier i awdurdod cysgodol benodi neu ddynodi prif swyddog (o fewn ystyr adran 43(2) of Ddeddf Lleoliaeth 2011) hyd nes y bydd y datganiad polisi tâl o dan is-adran (3)(a) wedi ei baratoi a’i gymeradwyo.

5

Mae adrannau 38(2) i (5) a 39(1), (4) a (5), 41(1) a (2) a 42(1) a (2) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn gymwys yn unol â hynny ond fel pe bai’r awdurdod cysgodol yn awdurdod perthnasol a’r cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3)(a) yn flwyddyn ariannol.

6

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch cyflawni dyletswyddau a osodir gan yr adran hon a rhaid i bwyllgorau pontio ac awdurdodau cysgodol, wrth gyflawni dyletswyddau a osodir gan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau o’r fath.