RHAN 9CYFFREDINOL
56Dehongli cyfeiriadau at “cymhwyster”
1
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at gymhwyster, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb, yn gyfeiriadau at gymhwyster academaidd neu gymhwyster galwedigaethol a ddyfernir yng Nghymru, ac eithrio—
a
gradd sylfaen;
b
gradd gyntaf;
c
gradd ar lefel uwch.
2
Mae cymhwyster i’w ddyfarnu yng Nghymru, at ddibenion yr adran hon, os oes personau, neu y gellir disgwyl yn rhesymol bod personau, sy’n ceisio cael y cymhwyster sy’n cael, neu a fydd yn cael, neu y gellir disgwyl yn rhesymol iddynt gael, eu hasesu mewn cysylltiad â’r cymhwyster yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
3
Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at ddyfarnu cymhwyster yn cynnwys cyfeiriad at—
a
dyfarnu credydau mewn cysylltiad ag elfennau cymhwyster;
b
dyfarnu cymhwyster gan gorff naill ai ar y cyd neu gydag eraill.
4
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at ffurf ar gymhwyster yn gyfeiriadau at y fersiwn benodol o gymhwyster sy’n cael ei chynnig, neu sydd i’w chynnig, gan gorff dyfarnu penodol.