RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU

Ildio cymeradwyaeth a thynnu cymeradwyaeth yn ôl

I1I226Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad ag ildio cymeradwyaeth

1

Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion cydnabyddiaeth o ildio o dan adran 25.

2

Os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny at ddiben osgoi effaith andwyol ar bersonau sy’n ceisio cael, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddynt geisio cael, y ffurf ar y cymhwyster o dan sylw, caiff wneud darpariaeth yn y gydnabyddiaeth o ildio sydd o fewn is-adran (3).

3

Mae darpariaeth o fewn yr is-adran hon yn ddarpariaeth i’r perwyl bod y ffurf ar y cymhwyster, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, i gael ei thrin, at ddibenion a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon gan Gymwysterau Cymru i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.

4

Os yw Cymwysterau Cymru yn gwneud darpariaeth o fewn is-adran (3)—

a

rhaid iddo roi rhesymau dros hyn yn y gydnabyddiaeth o ildio, a

b

mae’r ffurf ar y cymhwyster i gael ei thrin, o’r adeg pan ddaw’r dyddiad ildio i ben, at y dibenion a bennir yn y gydnabyddiaeth o ildio, a hyd nes y daw’r dyddiad estyn i ben, fel pe bai wedi ei chymeradwyo o dan y Rhan hon i’w dyfarnu gan y corff o dan sylw.

5

Yn yr adran hon—

  • ystyr “dyddiad estyn” (“extension date”) yw dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio at ddibenion yr adran hon;

  • ystyr “dyddiad ildio” (“surrender date”) yw’r dyddiad a bennir gan Gymwysterau Cymru yn y gydnabyddiaeth o ildio fel y dyddiad y mae’r gymeradwyaeth i beidio â chael effaith pan ddaw i ben.