ATODLEN 3DARPARIAETH BELLACH YNGHYLCH CYDNABOD CYRFF DYFARNU

19Tynnu cydnabyddiaeth yn ôl

1

Os yw corff cydnabyddedig yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod y mae cydnabyddiaeth mewn cysylltiad â dyfarnu cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl ei gydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad â dyfarnu—

a

cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu

b

pob cymhwyster y cydnabyddir y corff mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.

2

Os yw corff cydnabyddedig sy’n dyfarnu cymhwyster a gymeradwywyd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw amod y mae’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddo, caiff Cymwysterau Cymru dynnu’n ôl ei gydnabyddiaeth o’r corff mewn cysylltiad â dyfarnu⁠—

a

cymhwyster penodedig neu ddisgrifiad penodedig o gymhwyster, neu

b

pob cymhwyster y cydnabyddir y corff mewn cysylltiad â’i ddyfarnu.