ATODLEN 1CYMWYSTERAU CYMRU
RHAN 1SEFYDLU CYMWYSTERAU CYMRU
21Dirprwyo
1
Caiff cyd-bwyllgor ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau i is-bwyllgor a sefydlir ganddo.
2
Mae swyddogaeth wedi ei dirprwyo o dan y paragraff hwn i’r graddau ac ar y telerau y mae’r cyd-bwyllgor yn penderfynu arnynt, ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Gymwysterau Cymru a’r person y sefydlodd y cyd-bwyllgor gydag ef o ran yr hyn y caiff y cyd-bwyllgor ei wneud neu beidio â’i wneud.