RHAN 4CYMWYSTERAU BLAENORIAETHOL A CHYMERADWYO CYMWYSTERAU

Cymwysterau eraill

19Cymeradwyo cymwysterau nad ydynt yn gymwysterau blaenoriaethol

1

Mae’r adran hon yn gymwys—

a

pan fo cais yn cael ei wneud i Gymwysterau Cymru, i ffurf ar gymhwyster gael ei chymeradwyo, gan gorff dyfarnu a gydnabyddir mewn cysylltiad â dyfarnu’r cymhwyster o dan sylw, a

b

pan fo Cymwysterau Cymru wedi ei fodloni nad yw’r cymhwyster o dan sylw yn gymhwyster blaenoriaethol.

2

Caiff Cymwysterau Cymru, yn ôl ei ddisgresiwn, benderfynu pa un ai i ystyried y ffurf ar y cymhwyster i’w chymeradwyo.

3

Os yw Cymwysterau Cymru yn ystyried y ffurf ar y cymhwyster i’w chymeradwyo, caiff gymeradwyo’r ffurf ar y cymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff o dan sylw, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

4

Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 21 (pŵer i bennu gofynion sylfaenol).

5

Rhaid i Gymwysterau Cymru lunio cynllun sy’n gwneud darpariaeth ynghylch gwneud penderfyniadau o dan is-adran (2).

6

Rhaid i’r cynllun, ymhlith pethau eraill, nodi ffactorau sy’n debygol o gael eu hystyried gan Gymwysterau Cymru wrth benderfynu pa un ai i ystyried ffurf ar gymhwyster i’w chymeradwyo.

7

Rhaid i Gymwysterau Cymru arfer ei swyddogaethau yn unol â’r cynllun.

8

Caiff Cymwysterau Cymru ddiwygio’r cynllun.

9

Rhaid i Gymwysterau Cymru gyhoeddi’r cynllun.