RHAN 1TROSOLWG
1Trosolwg
1
Mae’r adran hon yn drosolwg o brif ddarpariaethau’r Ddeddf.
2
Mae Rhan 2—
a
yn sefydlu Cymwysterau Cymru ac (yn Atodlen 1) yn gwneud darpariaeth ynghylch ei aelodaeth a’i drefniadau llywodraethu,
b
yn nodi prif nodau Cymwysterau Cymru, ac
c
yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru, wrth arfer ei swyddogaethau, weithredu mewn ffordd y mae’n ystyried ei bod yn briodol at ddiben cyflawni’r nodau hynny.
3
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cydnabod gan Gymwysterau Cymru gyrff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru.
4
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymwysterau blaenoriaethol a chymeradwyo gan Gymwysterau Cymru gymwysterau i’w dyfarnu yng Nghymru. Mae—
a
yn ei gwneud yn ofynnol i Gymwysterau Cymru a Gweinidogion Cymru lunio rhestr o gymwysterau sydd i fod yn flaenoriaeth i Gymwysterau Cymru,
b
yn galluogi Cymwysterau Cymru o dan amgylchiadau penodol i benderfynu y dylid cyfyngu ar nifer y ffurfiau ar y cymwysterau hynny a gymeradwyir ganddo (naill ai i un neu i fwy nag un),
c
yn galluogi Cymwysterau Cymru i ymrwymo i drefniadau gyda chorff i ddatblygu ffurf newydd ar gymhwyster i’w dyfarnu yng Nghymru, pan fo wedi gwneud penderfyniad fel y’i disgrifir ym mharagraff (b) mewn cysylltiad â’r cymhwyster o dan sylw, a
d
yn galluogi Cymwysterau Cymru i ystyried cymeradwyo cymhwyster i’w ddyfarnu yng Nghymru nad yw wedi ei gynnwys ar y rhestr y cyfeirir ati ym mharagraff (a).
5
Mae Rhan 5 yn galluogi Cymwysterau Cymru i ddynodi cymhwyster at ddiben galluogi i gwrs sy’n arwain ato gael ei gyllido gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol yng Nghymru, neu ei ddarparu gan neu ar ran ysgol a gynhelir yng Nghymru.
6
Mae Rhan 6—
a
yn darparu mai dim ond os yw Cymwysterau Cymru wedi cymeradwyo neu ddynodi’r ffurf ar y cymhwyster y mae cwrs addysg neu hyfforddiant yn arwain ati y caniateir i’r cwrs gael ei gyllido gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol yng Nghymru, neu ei ddarparu gan neu ar ran ysgol a gynhelir yng Nghymru, a
b
yn gwneud darpariaeth sy’n cyfyngu ar effaith yr amodau a osodir gan Ofqual, mewn cysylltiad â dyfarnu yng Nghymru ffurf ar gymhwyster sydd wedi ei chymeradwyo gan Gymwysterau Cymru; ac sy’n cyfyngu ar effaith yr amodau cydnabod a osodir gan Gymwysterau Cymru fel nad ydynt yn gymwys mewn cysylltiad â dyfarnu cymwysterau y tu allan i Gymru.
7
Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch camau y caiff Cymwysterau Cymru eu cymryd os yw’n ystyried bod corff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru wedi methu â chydymffurfio ag amod y mae’r gydnabyddiaeth o’r corff hwnnw, neu’r gymeradwyaeth i gymhwyster a ddyfernir ganddo, yn ddarostyngedig iddo.
8
Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau eraill Cymwysterau Cymru, gan gynnwys—
a
y pŵer i ddarparu gwasanaeth ymgynghori a gwasanaethau eraill ar sail fasnachol,
b
y ddyletswydd i lunio datganiad polisi,
c
sut y mae Cymwysterau Cymru i ymdrin â chwynion,
d
ffioedd y caniateir i Gymwysterau Cymru eu codi, ac
e
y ddyletswydd i roi sylw i egwyddorion penodol wrth gyflawni gweithgareddau rheoleiddiol.
9
Mae Rhan 9 yn gwneud darpariaeth gyffredinol, gan gynnwys nodi mynegai o dermau wedi eu diffinio a ddefnyddir yn y Ddeddf.
10
Yn Rhan 9, mae adran 56 yn nodi ystyr y term “cymhwyster” fel y’i defnyddir yn y Ddeddf.