Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 6: Darpariaeth Bellach Sy’N Berthnasol I Gydnabod, Cymeradwyo a Dynodi

Adran 36: Cyfyngu ar gymhwyso amodau a osodir gan Gymwysterau Cymru

81.O dan adran 36, mae amodau cydnabod a osodir gan Gymwysterau Cymru ar gorff cydnabyddedig yn gymwys mewn perthynas â dyfarnu cymwysterau gan y corff yng Nghymru, y mae’r corff wedi ei gydnabod mewn cysylltiad â hwy. Mae hyn yn cwmpasu pob cymhwyster o fewn ei gydnabyddiaeth, ac nid dim ond unrhyw un neu ragor a gymeradwyir o dan Ran 4 neu a ddynodir o dan adran 29. Caniateir i gyrff cydnabyddedig gael eu rheoleiddio hefyd drwy amodau cydnabod a osodir gan Ofqual (o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009) mewn cysylltiad â chymwysterau a ddyfernir yng Nghymru, ac eithrio’r ffurfiau a ddyfernir fel rhai a gymeradwywyd. Y rheswm dros hyn yw nad yw adran 35 ond yn atal amodau cydnabod Ofqual rhag bod yn gymwys mewn cysylltiad â ffurfiau ar gymwysterau a ddyfernir yng Nghymru fel rhai a gymeradwywyd.

82.Ni fydd amodau cydnabod a osodir gan Gymwysterau Cymru yn gymwys mewn perthynas â dyfarnu ffurf ar gymhwyster y tu allan i Gymru.