Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

31Y GymraegLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae adran 70 o DCGTh 1990 (penderfynu ar geisiadau: ystyriaethau cyffredinol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (2), ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)any considerations relating to the use of the Welsh language, so far as material to the application;.

(3)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2ZA)Subsection (2)(aa) applies only in relation to Wales.

(4)Nid yw’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon yn addasu—

(a)pa un ai a yw sylw i’w roi i unrhyw ystyriaeth benodol o dan is-adran (2) o adran 70 o DCGTh 1990, neu

(b)y pwysau sydd i’w roi i unrhyw ystyriaeth y rhoddir sylw iddi o dan yr is-adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 31 mewn grym ar 6.9.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 58(2)(b)

I2A. 31 mewn grym ar 4.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1987, ergl. 3(e)