Canllawiau a chyfarwyddydau mewn perthynas â diben y Ddeddf hon
15Pŵer i ddyroddi canllawiau statudol
1
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdod perthnasol ar y modd y dylai’r awdurdod arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon (“canllawiau statudol”).
2
Gallai’r canllawiau statudol, ymysg pethau eraill, ymdrin â—
a
y camau y caiff awdurdod eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu newid agweddau mewn perthynas â hwy (er enghraifft, drwy ddynodi aelod o staff at y diben hwnnw neu drwy ymgymryd â rhaglen addysg gyhoeddus neu gynorthwyo â rhaglen o’r fath);
b
comisiynu cyngor arbenigol neu gymorth arall yn ymwneud â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol gan awdurdodau perthnasol;
c
yr amgylchiadau pan fo’n briodol i bersonau sy’n gweithredu ar ran awdurdod perthnasol holi person a yw’n dioddef trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu mewn perygl o’u dioddef;
d
y camau sy’n briodol pan fo gan berson sy’n gweithredu ar ran awdurdod perthnasol reswm i amau bod person yn dioddef trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, neu mewn perygl o’u dioddef;
e
polisïau’r gweithle i hybu lles cyflogeion awdurdodau perthnasol y gallai trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol effeithio arnynt;
f
hyfforddiant i aelodau a staff awdurdod perthnasol;
g
rhannu gwybodaeth rhwng awdurdodau perthnasol neu gan awdurdod perthnasol â pherson arall;
h
cydweithredu rhwng awdurdodau perthnasol neu rhwng awdurdod perthnasol a phersonau eraill.
3
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
dyroddi canllawiau statudol i awdurdodau perthnasol yn gyffredinol neu i un awdurdod penodol neu ragor;
b
dyroddi canllawiau statudol gwahanol i wahanol awdurdodau perthnasol;
c
diwygio neu ddirymu canllawiau statudol drwy ganllawiau pellach;
d
dirymu canllawiau statudol drwy ddyroddi hysbysiad i’r awdurdod perthnasol y’i cyfeirir ato.
4
Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canllawiau statudol, neu hysbysiad sy’n dirymu canllawiau o’r fath, yn datgan—
a
y’u cyhoeddir o dan yr adran hon, a
b
y dyddiad y bydd yn cael effaith.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu i ganllawiau statudol, neu hysbysiadau sy’n dirymu canllawiau o’r fath, gael eu cyhoeddi.