Addysg

10Canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch

1

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau yng Nghymru o fewn y sector addysg bellach ynghylch sut y gall y cyrff gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon.

2

Caiff Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC”) ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau yng Nghymru o fewn y sector addysg uwch ynghylch sut y gall y cyrff gyfrannu at ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon.

3

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru a CCAUC ddyroddi canllawiau o dan yr adran hon—

a

a gyfeirir at sefydliad penodol,

b

mewn cysylltiad â chyrsiau neu raglenni ymchwil (gan gynnwys cynnwys cyrsiau neu raglenni o’r fath neu’r modd y maent yn cael eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu),

c

mewn cysylltiad â’r meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr, neu

d

mewn cysylltiad â’r meini prawf ar gyfer dethol a phenodi staff academaidd.

4

Rhaid i gorff llywodraethu y dyroddir canllawiau iddo o dan yr adran hon roi sylw iddynt.

5

Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru a CCAUC ymgynghori â’r personau hynny sy’n briodol yn eu barn hwy.

6

Rhaid i ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gael eu cyhoeddi.

7

At ddibenion yr adran hon, mae sefydliad—

a

yng Nghymru os yw ei weithgareddau yn cael eu cynnal yn gyfan gwbwl neu’n bennaf yng Nghymru,

b

o fewn y sector addysg bellach os yw’n dod o fewn adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13) (“Deddf 1992”), ac

c

o fewn y sector addysg uwch os yw’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf 1992.

8

Hyd 31 Awst 2017, mae “sefydliad o fewn y sector addysg uwch” hefyd yn cynnwys prifysgol sy’n cael ei thrin fel pe bai’n sefydliad rheoleiddiedig at ddiben y ddarpariaeth drosiannol a wneir gan Ran 2 o’r Atodlen i Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (dccc 1).

9

Yn yr adran hon mae i “corff llywodraethu” yr ystyr a roddir i “governing body” gan adran 90 o Ddeddf 1992.