Nodiadau Esboniadol i Deddf Trais Yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Nodiadau Esboniadol

Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn yn ymwneud â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Mawrth 2015 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 29 Ebrill 2015.

2.Maent wedi cael eu paratoi gan yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau yn Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni. Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o’r Ddeddf. Pan ymddengys nad oes angen unrhyw esboniad na sylw ar adran unigol o’r Ddeddf, ni chaiff un ei roi.

Crynodeb O’R Ddeddf

3.Yn gryno, mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth:

a)

i’w gwneud yn ofynnol paratoi strategaethau cenedlaethol a lleol ar gyfer mynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol;

b)

i roi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gynorthwyo cyrff cyhoeddus penodol wrth iddynt gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf;

c)

i ddiwygio Deddf Addysg 1996 er mwyn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi gwybodaeth ynghylch pa un a yw swyddogaethau addysg awdurdodau lleol yn cael eu harfer i hyrwyddo diben y Ddeddf, ac os ydynt, sut y maent yn gwneud hynny; a

d)

i ddarparu y bydd Gweinidogion Cymru yn penodi cynghorydd i roi cyngor a chynhorthwy arall i Weinidogion Cymru mewn perthynas â chyflawni diben y Ddeddf.

Sylwebaeth Ar Adrannau

Adran 1 - Diben y Ddeddf hon

4.Mae’r adran hon yn egluro diben y Ddeddf, sef gwella’r canlynol:

  • y trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol;

  • y trefniadau ar gyfer amddiffyn dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol; a

  • y cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

5.Caiff amrywiol swyddogaethau’r cyrff cyhoeddus y darperir ar eu cyfer yn y Ddeddf hon eu cyfeirio at gyflawni’r diben hwn. Mae unrhyw gyfeiriad yn y Ddeddf (ac yn y nodiadau hyn) at ddiben y Ddeddf yn gyfeiriad at y diben hwn.

Adran 2 – Trais yn erbyn menywod a merched

6.Mae’r adran hon yn rhoi sylw i drais yn erbyn menywod a merched, drwy ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf (a ddiffinnir yn adran 2(2) fel “swyddogaethau perthnasol”) roi sylw i’r angen i ddileu neu leihau ffactorau sy’n cynyddu’r risg o drais yn erbyn menywod a merched, neu’n gwaethygu effaith trais o’r fath ar ddioddefwyr. Rhaid i berson sy’n arfer swyddogaethau perthnasol, fodd bynnag, roi sylw hefyd i’r holl faterion perthnasol eraill.

Adran 3 – Dyletswydd i baratoi, cyhoeddi ac adolygu strategaeth genedlaethol

7.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth yn nodi sut y byddant yn gweithio tuag at gyflawni diben y Ddeddf, ac i adolygu’r strategaeth honno o dro i dro. Rhaid i’r strategaeth bennu amcanion y bydd yn ofynnol i Weinidogion Cymru gymryd pob cam rhesymol i’w cyflawni, wrth arfer eu swyddogaethau (gweler adran 4). Bydd y strategaeth genedlaethol yn nodi’r camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

8.Yn unol â diben y Ddeddf, rhaid i’r amcanion a bennir yn y strategaeth genedlaethol a’r camau a nodir i gyflawni’r amcanion hynny ganolbwyntio ar atal, amddiffyn a chynorthwyo, a byddant yn pennu’r camau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu cymryd. Gallai amcanion a bennir mewn cysylltiad â threfniadau atal gynnwys ymgyrchoedd i gynyddu ymwybyddiaeth, mentrau addysgol neu raglenni sydd â’r nod o adsefydlu tramgwyddwyr. O ran trefniadau amddiffyn a chynorthwyo, gall amcanion gynnwys y camau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cymryd i gefnogi’r gwaith o ganfod dioddefwyr yn gynnar, drwy weithredu rhaglen hyfforddi genedlaethol ar gyfer staff sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus yng Nghymru (megis mewn awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol) ac sy’n gweithio’n uniongyrchol â’r cyhoedd.

9.Mae’r personau hynny y bydd Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â hwy cyn cyhoeddi’r strategaeth genedlaethol gyntaf ac wrth adolygu’r strategaeth genedlaethol (gweler is-adran 7) yn debygol o gynnwys awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol: mae’n ofynnol i’r cyrff hyn roi sylw i’r strategaeth genedlaethol wrth baratoi ac adolygu eu strategaethau lleol (gweler adran 7). Yr ymgyngoreion tebygol eraill yw sefydliadau y gall eu gweithgareddau gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf; er enghraifft comisiynwyr heddlu a throseddu a darparwyr gwasanaethau prawf.

Adran 5 – Dyletswydd i baratoi strategaethau lleol

10.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol baratoi a chyhoeddi strategaeth (“strategaeth leol”) ar y cyd er mwyn cyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Ar hyn o bryd ceir saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru a’u rôl yw cynllunio, sicrhau a chyflenwi gwasanaethau gofal iechyd yn eu hardaloedd. Diffinnir “awdurdod lleol” yn adran 24(1), a’i ystyr yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.

11.Gall strategaeth leol gynnwys darpariaeth mewn perthynas â chamau gweithredu penodol y mae’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol yn disgwyl iddynt gael eu cymryd, o fewn ardal yr awdurdod, gan unrhyw awdurdod cyhoeddus, unrhyw gorff gwirfoddol neu berson arall y gallai ei weithgareddau gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Er enghraifft, efallai y bydd darparwr gwasanaeth trydydd sector ym maes cam-drin domestig o fewn ardal awdurdod lleol yn dymuno cynnal ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ar y cyd â’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol. Pe byddai pob parti’n gytûn, gellid cynnwys manylion y cam gweithredu hwn yn y strategaeth leol ar gyfer yr ardal honno.

Adran 7 – Materion y mae’n rhaid rhoi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol

12.Mae adran 7(1) yn amlinellu nifer o faterion y mae’n rhaid i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol roi sylw iddynt wrth baratoi neu adolygu strategaeth leol.

13.Mae hyn yn cynnwys yr asesiad diweddaraf o anghenion a baratowyd o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. O dan adran 14 o’r Ddeddf honno mae’n ofynnol i awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o’i ardal o fewn ardal yr awdurdod lleol asesu, ar y cyd, yr anghenion o ran gofal a chymorth, cymorth i ofalwyr, a gwasanaethau ataliol yn ardal yr awdurdod. Gallai’r asesiad hwn ganfod anghenion gofal a chymorth o ganlyniad i drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol; byddai gwybodaeth o’r fath yn helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol.

14.Mae paragraffau (c) i (e) o is-adran (1) yn cyfeirio at asesiadau strategol a baratoir yn unol â rheoliadau o dan adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Mae’r asesiadau hyn yn llywio cynnwys y strategaethau a baratoir ar gyfer ardal awdurdod lleol gan nifer o gyrff cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac y cyfeirir atynt ar y cyd fel partneriaethau diogelwch cymunedol) o dan adran 6(1) o’r Ddeddf honno er mwyn lleihau trosedd ac anhrefn, aildroseddu a chamddefnyddio sylweddau yn ardal yr awdurdod lleol. Cynhelir asesiadau strategol sy’n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn ac aildroseddu yn unol â rheoliadau 5 i 7 o Reoliadau Trosedd ac Anhrefn (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007, ac asesiadau strategol sy’n ymwneud â mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn unol â rheoliadau 5 i 7 o Reoliadau Camddefnyddio Sylweddau (Llunio a Gweithredu Strategaeth) (Cymru) 2007. Mae’r grŵp strategaeth a sefydlwyd gan y bartneriaeth diogelwch cymunedol o dan y rheoliadau perthnasol yn cynnal asesiadau strategol blynyddol ar gyfer ardal awdurdod lleol. Diben yr asesiad strategol yw cynorthwyo’r bartneriaeth diogelwch cymunedol i ddiwygio ei chynllun partneriaeth. Mae’r cynllun partneriaeth ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yn nodi’r strategaethau a baratowyd ar gyfer yr ardal honno o dan adran 6(1) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 ynghyd â gwybodaeth ynghylch sut y maent i’w rhoi ar waith. Mae’r grŵp strategaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill sy’n ffurfio’r bartneriaeth diogelwch cymunedol y mae gofynion adran 6 o Ddeddf 1998 yn gymwys iddynt. Mae asesiadau strategol yn cynnwys dadansoddiad o lefelau a phatrymau aildroseddu, trosedd, anhrefn a chamddefnyddio sylweddau ar gyfer ardaloedd awdurdod lleol. Mae’n bosibl, felly, y bydd asesiadau o’r fath yn nodi lefelau a phatrymau o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a allai helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol. Mae’r asesiadau hefyd yn dadansoddi unrhyw newidiadau yn lefelau a phatrymau aildroseddu, trosedd, anhrefn a chamddefnyddio sylweddau a’r hyn sy’n gyfrifol am newidiadau o’r fath. Mae’r dadansoddiad hwn yn debygol o fod o gymorth wrth baratoi ac adolygu strategaethau lleol o dan adran 6 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru).

15.Os bydd Gweinidogion o’r farn bod yr asesiadau hyn yn annigonol er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu strategaethau lleol, cânt arfer y pŵer gwneud rheoliadau yn is-adran (2) i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol gynnal rhagor o asesiadau.

Adran 9 – Gwybodaeth am ddarpariaeth addysgol i hybu diben y Ddeddf hon

16.Mae’r adran hon yn mewnosod is-adran (6A) i adran 29 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”). Mae adran 29 o Ddeddf 1996 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru, neu gyhoeddi gwybodaeth ynghylch y ddarpariaeth addysg gynradd ac uwchradd yn eu hardaloedd. Bydd mewnosod is-adran (6A) i adran 29 o Ddeddf 1996 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd ynghylch y camau a gymerodd awdurdodau i hyrwyddo diben y Ddeddf wrth arfer eu swyddogaethau addysg. Mae’r pŵer yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi’r wybodaeth sydd i’w chyhoeddi, pryd y’i cyhoeddir ac ar ba ffurf y’i cyhoeddir.

17.Mae’r adran hon hefyd yn diwygio adran 408 o Ddeddf 1996. Mae adran 408 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu a phenaethiaid ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol. Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi gwybodaeth yn gyffredinol, neu i berson rhagnodedig, ynghylch nifer o faterion gan gynnwys y cwricwlwm ar gyfer ysgolion a gynhelir a’r ddarpariaeth addysgol a gynigir gan ysgolion. Mae adran 9(3)(a) i (c) o’r Ddeddf yn ehangu’r rhestr o faterion y caniateir ei gwneud yn ofynnol, drwy reoliadau, ddarparu gwybodaeth amdanynt i gynnwys gwybodaeth ynghylch y ddarpariaeth addysg rhyw a’r datganiadau polisi a baratowyd gan ysgolion ynghylch y ddarpariaeth addysg rhyw. Mae adran 9(3)(d) yn mewnosod is-adran (8A) i adran 408 o Ddeddf 1996, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth wneud rheoliadau o dan adran 408(1) o’r Ddeddf honno, roi sylw i ddymunoldeb bod gwybodaeth ar gael ynghylch a yw unrhyw rannau o’r cwricwlwm ac unrhyw ddarpariaeth addysgol mewn ysgolion a gynhelir yn hyrwyddo diben y Ddeddf ac, os ydynt, sut y maent yn gwneud hynny. Ni fyddai’r ddyletswydd yn yr is-adran (8A) newydd a fewnosodir i Ddeddf 1996 yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.

Adran 10 – Canllawiau i sefydliadau addysg bellach ac uwch

18.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau o fewn y sector addysg bellach yng Nghymru ynghylch sut y gallant gyfrannu at ddiben y Ddeddf. Mae sefydliad o fewn y sector addysg bellach os yw’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg bellach, yn sefydliad dynodedig o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“Deddf 1992”) neu’n goleg chweched dosbarth.

19.Mae’r adran hefyd yn galluogi Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddyroddi canllawiau i gyrff llywodraethu sefydliadau o fewn y sector addysg uwch yng Nghymru o ran sut y gall y cyrff gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Mae sefydliad o fewn y sector addysg uwch os yw’n brifysgol sy’n derbyn cymorth ariannol o dan adran 65 o Ddeddf 1992, yn sefydliad sy’n cael ei redeg gan gorfforaeth addysg uwch neu’n sefydliad y mae dynodiad a wnaed, neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud,  o dan adran 129 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn cael effaith mewn perthynas ag ef (fel y’i diffinnir yn adran 72(3) o Ddeddf 1992).

20.Rhaid i gyrff llywodraethu sefydliadau yng Nghymru o fewn y sector addysg bellach ac uwch yng Nghymru roi sylw i ganllawiau a ddyroddir iddynt o dan yr adran hon. Mae sefydliad “yng Nghymru” os yw ei weithgareddau’n cael eu cynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru. Ni fyddai’r adran hon yn gymwys i sefydliad sy’n darparu cwrs addysg penodol yng Nghymru, er enghraifft, pe bai gweithgareddau’r sefydliad yn cael eu cynnal yn Lloegr yn bennaf.

21.Mae is-adran (3) yn gosod cyfyngiadau ar gynnwys y canllawiau y caiff Gweinidogion Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru eu dyroddi o dan yr adran hon. Ni chaiff y canllawiau fod ar gyfer sefydliad penodol nac ymwneud â’r materion a restrir yn (b) i (d).

Adran 11 – Dangosyddion cenedlaethol

22.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi dangosyddion y gellir eu defnyddio i fesur y cynnydd a wneir tuag at gyflawni diben y Ddeddf hon. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw un y maent yn ei ystyried yn berthnasol cyn cyhoeddi’r dangosyddion. Mae’n debygol y byddai hyn yn cynnwys awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol a sefydliadau trydydd sector sy’n gweithio yn y maes.

23.Er enghraifft, gallai nifer yr achosion o gam-drin domestig neu drosedd rywiol ledled Cymru, nifer yr unigolion mewn rhan benodol o Gymru sydd wedi eu hatgyfeirio at Gynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol neu nifer y cyrff cyhoeddus yng Nghymru sydd â pholisïau cam-drin domestig ar gyfer y gweithle fod yn ddangosyddion.

Adrannau 14 i 17 – Ystyr “awdurdod perthnasol”; pŵer i ddyroddi canllawiau statudol; ymgynghori a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru; dyletswydd i ddilyn canllawiau statudol

24.Mae adran 15(1) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau perthnasol ar sut y dylai’r awdurdodau arfer eu swyddogaethau er mwyn cyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Nodir ystyr “awdurdodau perthnasol” yn adran 14 fel awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol (ceir diffiniad pellach o’r ddau yma yn adran 24), awdurdod tân ac achub yng Nghymru ac un o ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

25.Mae adran 15(2) yn rhoi enghreifftiau o’r mathau o faterion y gallai’r canllawiau sôn amdanynt. Gallai’r canllawiau ymdrin â’r modd y gallai awdurdodau gynyddu ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â diben y Ddeddf hon. Er enghraifft, gallai canllawiau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi aelod o staff i fod yn eiriolwr, mewn ysgolion a lleoliadau eraill, dros fentrau sy’n berthnasol i ymdrin â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol; gallai mentrau o’r fath gynnwys codi ymwybyddiaeth o ddiben y Ddeddf neu ddatblygu ffyrdd o wella arferion a safonau o ran y dulliau a ddefnyddir i gyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf. Gellid dyroddi canllawiau hefyd mewn perthynas â helpu i annog gweithwyr proffesiynol (megis staff meddygol damweiniau ac achosion brys) sy’n dod i gysylltiad rheolaidd â dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol i holi dioddefwyr posibl ynghylch camdriniaeth neu drais mewn amgylchiadau penodol a, phan fo’n briodol, i weithredu i geisio lleihau dioddefaint a niwed. Yn ogystal, gallai canllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon gefnogi’r gwaith o hyfforddi staff o fewn awdurdodau perthnasol. Ymgynghorodd Gweinidogion Cymru ar Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar 23 Hydref 2014. Er enghraifft, gallai canllawiau gynorthwyo awdurdodau perthnasol i ddefnyddio’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol fel sylfaen ar gyfer hyfforddi staff yn y maes hwn, gan gynnwys sut i helpu eu staff i holi a gweithredu.

26.Mae adran 17 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau perthnasol i ddilyn unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan adran 15 o’r Ddeddf. Nod y ddyletswydd hon yw sicrhau dull cyson ac effeithiol o fynd i’r afael â materion yn ymwneud â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru. Nid yw awdurdod perthnasol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd i’r graddau y bo’n penderfynu, yn unol ag adran 17(2), ar bolisi amgen mewn perthynas â phwnc y canllawiau. O dan amgylchiadau o’r fath rhaid i’r awdurdod benderfynu ar ei bolisi amgen a dyroddi datganiad polisi yn nodi ei ddull amgen o fynd o’i chwmpas hi (gweler adran 18 am y gofynion sy’n gymwys i ddatganiadau o’r fath). Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i awdurdod perthnasol geisio ffordd o ymdrin â’r mater sy’n wahanol, yn llwyr neu yn rhannol, i’r hyn a nodir yn y canllawiau statudol; gallai hynny ddigwydd, er enghraifft, pe bai polisi amgen a fabwysiedir gan awdurdod lleol yn darparu dull sy’n fwy cydnaws ag anghenion lleol.

27.Pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r polisi amgen a gyhoeddwyd gan yr awdurdod perthnasol yn debygol o gyfrannu at ddiben y Ddeddf mae adran 19 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi cyfarwyddyd i awdurdod perthnasol. Gallai’r cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod perthnasol gymryd unrhyw gamau er mwyn cydymffurfio â chanllawiau a ddyroddwyd i’r awdurdod o dan adran 15. Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â chyfarwyddyd a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

Adrannau 20 i 23 – Cynghorydd Cenedlaethol; swyddogaethau’r Cynghorydd; cynllun blynyddol ac adroddiadau blynyddol; cyhoeddi adroddiadau

28.Mae adran 20 yn sefydlu swydd y Cynghorydd Cenedlaethol. Unigolyn a benodir drwy broses penodiadau cyhoeddus gan Weinidogion Cymru fydd y Cynghorydd, a bydd yn dal y swydd yn unol â thelerau a bennir gan y Gweinidogion. Mae’r adran hefyd yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru dalu treuliau, tâl cydnabyddiaeth, lwfansau a phensiynau mewn cysylltiad â’r Cynghorydd. Yn ogystal, caniateir i’r Gweinidogion roi i’r Cynghorydd y cymorth sydd ei angen arno i arfer ei swyddogaethau (er enghraifft, drwy ddyrannu staff Llywodraeth Cymru i’w gynorthwyo a darparu swyddfa ac offer ar ei gyfer).

29.Mae adran 21 yn nodi swyddogaethau’r Cynghorydd, gyda phob un ohonynt yn ymwneud â chyflawni diben y Ddeddf. Nid rôl o fewn y gwasanaeth sifil yw hon; rôl gynghorol statudol ydyw, a bydd y Cynghorydd yn cynghori ac yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru o ran mynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd gweithio gyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru er mwyn hyrwyddo arfer gorau ar draws y sector cyhoeddus yn rhan o waith y Cynghorydd.

30.Bydd gan y Cynghorydd rôl allweddol hefyd yn y gwaith o adolygu’r camau a gymerir gan awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau tân ac achub ac Ymddiriedolaethau’r GIG o dan y dyletswyddau a osodir gan y Ddeddf, gan roi gwybod i Weinidogion Cymru am y canlyniadau. I’r perwyl hwnnw, mae adran 21 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, awdurdodau tân ac achub ac Ymddiriedolaethau’r GIG gydymffurfio â cheisiadau rhesymol am wybodaeth gan y Cynghorydd. Mae’r pŵer hwn yn galluogi’r Cynghorydd i gael mynediad at yr wybodaeth y mae’n ei hystyried yn angenrheidiol i’w lywio wrth arfer y swyddogaethau y sonnir amdanynt yn adran 21(1). Gallai gwybodaeth berthnasol at y dibenion hyn fod yn fanylion gweithdrefnau a phrosesau ar gyfer canfod dioddefwyr y gamdriniaeth a’r trais y mae’r Ddeddf yn ymwneud ag ef, ac ymateb iddynt; neu’n fanylion hyfforddiant perthnasol y mae staff wedi’i dderbyn at ddibenion mynd i’r afael â cham-drin a thrais.

31.Mae’r grŵp hwn o adrannau yn cyfeirio at “Cynghorydd Cenedlaethol” a “Cynghorydd Gweinidogol”. Pan gyflwynwyd y Bil ar gyfer y Ddeddf hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roedd yn cyfeirio at y swydd a sefydlir o dan 20 fel y “Cynghorydd Gweinidogol”. Yng ngham 3 o’r broses o graffu ar y Bil yn y Cynulliad, cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliannau i’r Bil er mwyn newid enw’r Cynghorydd i “Cynghorydd Cenedlaethol”. Ni chafodd rhai o’r gwelliannau hynny eu cytuno gan y Cynulliad, felly ceir rhai cyfeiriadau at “Cynghorydd Gweinidogol” yn y Ddeddf o hyd.

32.O dan adran 22, mae gofyn i’r Cynghorydd baratoi cynllun blynyddol ac adroddiad blynyddol parthed arferiad ei swyddogaethau. Mae’r adran hon yn nodi’r hyn y dylid ei gynnwys yn y cynllun ac yn galluogi’r Cynghorydd i ymgynghori ag unrhyw un wrth ei baratoi. Mae angen cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ar y cynllun (a gellir ei ddiwygio, os yw’r Cynghorydd yn cytuno).

33.Hefyd, rhaid i adroddiadau blynyddol y Cynghorydd gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru. Bydd hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i gael trosolwg llawn o waith y Cynghorydd Gweinidogol a sicrhau bod y rôl yn cyfrannu at gyflawni diben y Ddeddf.

34.O dan adran 23, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r cynlluniau a’r adroddiadau blynyddol sy’n ofynnol o dan adran 22 o’r Ddeddf. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r Cynghorydd ar gael yn gyhoeddus. Bydd yr wybodaeth hon o ddiddordeb penodol i’r sefydliadau cyhoeddus a’r sefydliadau trydydd sector hynny sy’n gweithio ym maes trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

35.Mae adran 23 hefyd yn nodi pa adroddiadau eraill y mae gofyn i Weinidogion Cymru eu cyhoeddi. Rhaid cyhoeddi adroddiadau a grybwyllir yng nghynllun blynyddol y Cynghorydd; caniateir cyhoeddi adroddiadau eraill, nad ydynt wedi’u crybwyll yn y cynllun blynyddol, yn ôl disgresiwn Gweinidogion Cymru.

36.Mae’r ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi gwybodaeth o dan adran 23(1) yn un amodol. Mae is-adran (3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru dynnu gwybodaeth o adroddiadau neu gynlluniau y mae’r Cynghorydd yn eu hanfon atynt cyn cyhoeddi’r dogfennau hynny. Er enghraifft, gallai gwybodaeth a gynhwysir mewn adroddiad gan y Cynghorydd olygu y gellid adnabod dioddefwr neu dramgwyddwr cam-drin domestig; gallai cyhoeddi’r wybodaeth honno wneud yr unigolyn yn agored i risg o niwed neu gallai ragfarnu achos llys sydd yn yr arfaeth.

Adran 24 – Dehongli

37.Mae’r adran hon yn nodi ystyr y termau diffiniedig a ddefnyddir yn y Ddeddf.

38.Mae’r adran hon yn diffinio’r termau “cam-drin”, “cam-drin domestig”, “trais ar sail rhywedd” a “trais rhywiol”, ac mae’n gwneud hynny drwy ddisgrifio’r ymddygiadau sydd i gael eu hystyried yn gamdriniaeth neu’n drais at ddibenion y Ddeddf.

39.Mae’r Ddeddf yn darparu ei bod yn ofynnol, o ran cam-drin domestig, bod y sawl sy’n cam-drin yn “gysylltiedig” â’r dioddefwr. Diffinnir person sy’n “gysylltiedig” yn is-adrannau (2) i (4).

40.Mae hyn yn cynnwys, yn is-adran (2)(h), y rheini sydd mewn “perthynas bersonol agos” â’i gilydd, neu sydd wedi bod mewn perthynas o’r fath. Mae’r dull a ddefnyddir yn y Ddeddf hon yn wahanol i’r dull a ddefnyddir wrth ddiffinio “personau cysylltiedig” yn adran 58(2)(h) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac “associated persons” yn adran 62(3)(a) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (fel y’i mewnosodir gan adran 4 o Ddeddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004). Yn y Deddfau hynny, rhaid i’r berthynas bersonol agos fod yn fod yn un sydd wedi “parhau am gyfnod sylweddol”(“significant duration”). Nid yw hynny’n wir o dan y Ddeddf hon. Mae adran 24(2)(h) yn cwmpasu perthynas bersonol agos o unrhyw hyd, er mwyn adlewyrchu’r ffaith y gall trais fod yn bresennol yng nghamau cynnar iawn perthynas bersonol agos. Gall perthynas bersonol agos fodoli rhwng dau berson o’r un rhyw neu rhwng dau berson o rywiau gwahanol.

41.Diffinnir “cam-drin” i olygu cam-drin corfforol, rhywiol, emosiynol, seicolegol ac ariannol. Yn aml, mae dioddefwyr cam-drin domestig yn teimlo o dan fygythiad, gorfodaeth neu reolaeth. Gallai hyn fod o ganlyniad i drais corfforol gwirioneddol, er enghraifft, neu fygythiad ohono. Yn y naill achos neu’r llall byddai’r diffiniad o gam-drin yn ymestyn i ymddygiad o’r fath, gan y byddai’n gamdriniaeth gorfforol yn achos trais corfforol gwirioneddol, neu’n gamdriniaeth seicolegol yn achos bygythiadau o drais. Gallai tramgwyddwr hefyd rwystro dioddefwr, mewn modd afresymol, rhag cael mynediad i’w gyfrif banc er mwyn ei reoli. Byddai ymddygiad o’r fath yn gam-drin ariannol, ac felly’n dod o dan y diffiniad o gam-drin domestig. Fodd bynnag, ni fyddai ymyrraeth resymol â materion ariannol person arall yn cael ei hystyried yn gamdriniaeth. Ni fyddai cam-drin ariannol felly yn cwmpasu rhiant sy’n rheoli materion ariannol ei blentyn mewn modd rhesymol. Mae’n bosibl nad yw cam-drin yn cynnwys gweithredoedd uniongyrchol yn erbyn y dioddefwr bob amser.

42.Gallai cam-drin seicolegol ac emosiynol ddilyn o ymyrryd â phethau sy’n bwysig i ddioddefwr, neu mewn perthynas â’r pethau hynny. Gallai hynny gynnwys niwed bwriadol i gartref neu eiddo dioddefwr, neu ymddwyn yn dreisgar tuag at anifeiliaid anwes dioddefwr. Gallai beichiogrwydd dan orfod fod yn gam-drin seicolegol neu emosiynol, a chodi ohono, pan fo menyw neu ferch yn cael ei gorfodi neu ei thwyllo i gael rhyw heb ddulliau atal cenhedlu er mwyn ei gwneud yn feichiog. A gallai erthyliad dan orfod hefyd fod yn gam-drin o’r fath, a chodi ohono, pan fo menyw neu ferch yn cael ei gorfodi neu ei thwyllo i derfynu ei beichiogrwydd, pa un a yw’r weithdrefn derfynu ei hun yn gyfreithlon ai peidio.

43.Un enghraifft o drais ar sail rhywedd sy’n dod o fewn paragraff (a) o’r diffiniad yw’r hyn a elwir yn “drais ar sail anrhydedd”, pan fo pobl yn dioddef trais, bygythiadau o drais neu aflonyddu yn sgil y canfyddiad eu bod wedi peri gwarth neu gywilydd i’r teulu neu’r gymuned pan fo’r gwarth neu’r cywilydd canfyddedig yn codi o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol (megis credoau ynghylch cael perthynas â pherson o’r rhyw arall oddi allan i briodas neu gredoau ynghylch cyfunrhywiaeth).

44.Mae’r diffiniad o drais ar sail rhywedd at ddibenion y Ddeddf yn cynnwys aflonyddu ac anffurfio organau cenhedlu benywod; diffinnir y ddau yn is-adran (5).

45.Mae’r diffiniad o drais rhywiol at ddibenion y Ddeddf yn cynnwys camfanteisio rhywiol ac aflonyddu rhywiol, ac mae’r ddau wedi eu diffinio yn is-adran (5). Mae camfanteisio rhywiol yn cynnwys treisio, ymosod rhywiol a nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant. Diffinnir “aflonyddu” yn is-adran (5) hefyd, ac mae’r diffiniad yn cynnwys aflonyddu ar ffurf siarad.

46.Atodir tabl sy’n crynhoi’r ymddygiadau isod:

YmddygiadauDioddefwrTramgwyddwr
Trais ar sail Rhywedda. Yn codi o werthoedd, credoau neu arferion sy’n ymwneud â rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiolUnrhyw unUnrhyw un
b. Anffurfio organau cenhedlu benywodMenywod a merchedUnrhyw un
c. Priodas dan orfodUnrhyw unUnrhyw un
Cam-drin DomestigPerson sy’n gysylltiedig â’r tramgwyddwr (gweler adran 24(2))Person sy’n gysylltiedig â’r dioddefwr (gweler adran 24(2))
Trais RhywiolUnrhyw unUnrhyw un

Cofnod Y Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

47.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cam o daith y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir gweld Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am daith y Ddeddf ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

CamDyddiad
Cyflwynwyd30 Mehefin 2014
Cam 1 – Dadl25 Tachwedd 2014
Cam 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau22 Ionawr 2015
Cam 3 Cyfarfod Llawn - ystyried y gwelliannau3 Mawrth 2015
Cam 4 Cymeradwywyd gan y Cynulliad10 Mawrth 2015
Y Cydsyniad Brenhinol29 Ebrill 2015

Back to top