Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

44Adolygu cynlluniau llesiant lleol
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)adolygu a diwygio ei amcanion lleol;

(b)adolygu a diwygio ei gynllun llesiant lleol (a rhaid iddo ddiwygio ei gynllun os yw wedi diwygio ei amcanion lleol).

(2)O ran pob bwrdd—

(a)rhaid iddo adolygu ei amcanion lleol neu ei gynllun llesiant lleol os yw’n cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, a

(b)caiff ddiwygio ei amcanion neu ddiwygio ei gynllun o ganlyniad i adolygiad o’r fath.

(3)Wrth roi cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau am ei roi.

(4)Cyn diwygio ei gynllun, rhaid i bob bwrdd ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd;

(b)y personau y soniwyd amdanynt yn adran 43(1).

(5)Rhaid i gynllun diwygiedig gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Rhaid i fwrdd anfon copi o’i gynllun diwygiedig at y canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Comisiynydd;

(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(d)pwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.