Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

36Dyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Rhaid i gyfraniad bwrdd gwasanaethau cyhoeddus at gyrraedd y nodau gynnwys—

(a)asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal (gweler adrannau 37 a 38),

(b)gosod amcanion (“amcanion lleol”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf o fewn ei ardal at gyrraedd y nodau hynny, ac

(c)bod aelodau’r bwrdd yn cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer eu swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny (ond gweler adran 39(2)(b)).

(3)Rhaid i unrhyw beth y mae bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud o dan yr adran hon gael ei wneud yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

(4)Mae adrannau 39 i 45 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau llesiant lleol gan gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus nodi mewn cynlluniau o’r fath eu hamcanion lleol a’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i’w cyflawni.