Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

33Newidiadau mewn cyfranogiadLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio adrannau 29(2), 30(1) neu 32(1) drwy—

(a)ychwanegu person,

(b)tynnu person ymaith, neu

(c)diwygio’r disgrifiad o berson.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ond ddiwygio adrannau 29(2), 30(1) neu 32(1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygio adran 29(2), 30(1) neu 32(1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw’r Rhan hon ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny sydd ganddo o natur gyhoeddus.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)aelodau, cyfranogwyr gwadd a phartneriaid eraill y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r rheoliadau arfaethedig yn ymwneud â hwy, a

(b)os bydd y rheoliadau hynny yn diwygio adran 29(2), 30(1) neu 32(1) er mwyn ychwanegu person, y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 33 mewn grym ar 30.4.2015 at ddibenion penodedig, gweler a. 56(1)(b)

I2A. 33 mewn grym ar 1.4.2016 gan O.S. 2016/86, ergl. 3