xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

Swyddogaethau’r Comisiynydd

20Adolygiadau gan y Comisiynydd

(1)Caiff y Comisiynydd gynnal adolygiad ynghylch i ba raddau y mae corff cyhoeddus yn diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion drwy ystyried effaith hirdymor y pethau y mae’r corff yn eu gwneud o dan adran 3.

(2)Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd adolygu—

(a)y camau y mae’r corff wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion llesiant;

(b)i ba raddau y mae’r corff yn cyflawni ei amcanion llesiant;

(c)a yw corff wedi gosod amcanion llesiant ac wedi cymryd camau i’w cyflawni yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

(3)Wrth gynnal adolygiad, rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i unrhyw ymchwiliad o’r corff a gynhelir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 15.

(4)Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd wneud argymhellion i’r corff cyhoeddus ynghylch—

(a)y camau y mae’r corff wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion llesiant;

(b)sut i osod amcanion llesiant a chymryd camau i’w cyflawni yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

(5)Caiff y Comisiynydd gynnal un adolygiad o ddau gorff cyhoeddus neu ragor.

(6)Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi adroddiad ar adolygiad (gan gynnwys unrhyw argymhellion a wneir) ac anfon copi ohono at Weinidogion Cymru.

(7)Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus ddarparu’r wybodaeth honno y mae’r Comisiynydd yn ei hystyried yn berthnasol i’r adolygiad.

(8)Ond nid yw’n ofynnol i gorff cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i’r Comisiynydd os yw’r corff wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.