RHAN 2GWELLA LLESIANT
Mesur perfformiad tuag at gyrraedd y nodau
I1I210Dangosyddion cenedlaethol ac adroddiad llesiant blynyddol
1
Rhaid i Weinidogion Cymru—
a
cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a
b
gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
2
Mewn perthynas â dangosydd cenedlaethol—
a
rhaid iddo gael ei ddatgan ar ffurf gwerth y gellir eu fesur, neu nodwedd y gellir ei mesur, yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol;
b
caniateir ei fesur dros unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol;
c
caniateir ei fesur mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.
3
Rhaid i Weinidogion Cymru osod cerrig milltir mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant.
4
Wrth osod carreg filltir rhaid i Weinidogion Cymru bennu —
a
y meini prawf ar gyfer penderfynu a yw’r garreg filltir wedi ei chyflawni (drwy gyfeirio at y gwerth y mesurir y dangosydd yn ei erbyn neu’r nodwedd y’i mesurir yn ei herbyn), a
b
erbyn pryd y mae’r garreg filltir i gael ei chyflawni.
5
Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.
6
Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (5), nad yw un neu ragor o’r dangosyddion cenedlaethol neu’r cerrig milltir yn briodol bellach, rhaid iddynt ei ddiwygio neu eu dwygio.
7
Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.
8
Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir o dan is-adran (6) neu (7), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid iddynt—
a
cyhoeddi’r dangosyddion a’r cerrig milltir fel y’u diwygiwyd, a
b
gosod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
9
Cyn cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir (gan gynnwys dangosyddion a cherrig milltir a ddiwygiwyd o dan is-adran (6) neu (7)), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
a
y Comisiynydd;
b
y cyrff cyhoeddus eraill;
c
y personau eraill hynny sy’n briodol yn eu barn hwy.
10
Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y cyhoeddir dangosyddion cenedlaethol o dan is-adran (1), gyhoeddi adroddiad (“adroddiad llesiant blynyddol”) ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r nodau llesiant drwy gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.
11
Rhaid i adroddiad llesiant blynyddol o dan is-adran (10) bennu’r cyfnodau o amser y mae’r mesuriad o bob dangosydd yn berthnasol iddynt.