Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

10Dangosyddion cenedlaethol ac adroddiad llesiant blynyddol

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a

(b)gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(2)Mewn perthynas â dangosydd cenedlaethol—

(a)rhaid iddo gael ei ddatgan ar ffurf gwerth y gellir eu fesur, neu nodwedd y gellir ei mesur, yn feintiol neu’n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol;

(b)caniateir ei fesur dros unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol;

(c)caniateir ei fesur mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru osod cerrig milltir mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant.

(4)Wrth osod carreg filltir rhaid i Weinidogion Cymru bennu —

(a)y meini prawf ar gyfer penderfynu a yw’r garreg filltir wedi ei chyflawni (drwy gyfeirio at y gwerth y mesurir y dangosydd yn ei erbyn neu’r nodwedd y’i mesurir yn ei herbyn), a

(b)erbyn pryd y mae’r garreg filltir i gael ei chyflawni.

(5)Os yw’r nodau llesiant yn cael eu diwygio, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.

(6)Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu, yn dilyn adolygiad o dan is-adran (5), nad yw un neu ragor o’r dangosyddion cenedlaethol neu’r cerrig milltir yn briodol bellach, rhaid iddynt ei ddiwygio neu eu dwygio.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg arall, adolygu a diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.

(8)Pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir o dan is-adran (6) neu (7), cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid iddynt—

(a)cyhoeddi’r dangosyddion a’r cerrig milltir fel y’u diwygiwyd, a

(b)gosod copi ohonynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(9)Cyn cyhoeddi dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir (gan gynnwys dangosyddion a cherrig milltir a ddiwygiwyd o dan is-adran (6) neu (7)), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd;

(b)y cyrff cyhoeddus eraill;

(c)y personau eraill hynny sy’n briodol yn eu barn hwy.

(10)Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y cyhoeddir dangosyddion cenedlaethol o dan is-adran (1), gyhoeddi adroddiad (“adroddiad llesiant blynyddol”) ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni’r nodau llesiant drwy gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir.

(11)Rhaid i adroddiad llesiant blynyddol o dan is-adran (10) bennu’r cyfnodau o amser y mae’r mesuriad o bob dangosydd yn berthnasol iddynt.