ATODLEN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMU

(cyflwynwyd gan adran 46)

1Deddf Addysg 1997 (p.44)

Yn adran 38(2A)(b) o Ddeddf Addysg 1997, yn lle “sections 25 and 26” rhodder “section 25”.

Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22)

2

Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

3

Yn adran 2 (hyrwyddo lles), yn is-adran (3B), yn lle’r geiriau sy’n dechrau â “community strategy” hyd at ddiwedd yr is-adran, rhodder “local well-being plan for its area published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2).”

4

Yn lle is-adran (3C) o’r adran honno, rhodder—

3C

The local well-being plan for the area of a community council is the plan referred to in subsection (3B) that is published by the public services board that includes as a member the county council or county borough council in whose area lies the community or communities for which the community council is established.

5

Yn adran 21 (pwyllgorau trosolwg a chraffu), yn is-adran (4), ar y diwedd, mewnosoder “or Part 4 of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2)”.

6

Yn adran 21B o’r Ddeddf honno (dyletswydd awdurdod i ymateb i’r pwyllgor trosolwg a chraffu), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

1A

A report or recommendation to a public services board by virtue of section 35(1)(c) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) is not to be regarded for the purposes of this section as a report or recommendation to the local authority that is a member of the board.

7Deddf Addysg 2002 (p.32)

Yn adran 21(9) o Ddeddf Addysg 2002 (cyfrifoldeb cyffredinol am weithrediad yr ysgol: diffiniad o “cynllun plant a phobl ifanc perthnasol”), yn lle paragraff (b) rhodder—

b

in relation to a school in Wales, a local well-being plan published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by a public services board of which the local authority is a member.

Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5)

8

Mae adran 62 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (cynllun datblygu lleol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

9

Yn is-adran (5)(d), yn lle “community strategy” rhodder “local well-being plan”.

10

Yn lle is-adran (7) rhodder—

7

A local well-being plan is relevant if it has been published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by—

a

in the case of an authority which is a county council or county borough council, the public services board of which that authority is a member;

b

in the case of an authority which is a National Park Authority, the public services board for an area that includes any part of that authority’s area.

Deddf Plant 2004 (p.31)

11

Mae Deddf Plant 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

12

Yn adran 25 (cydweithredu i wella lles: Cymru), ar ôl is-adran (9) mewnosoder—

9A

Information about the arrangements a local authority in Wales makes under this section may be included in the local well-being plan published under section 39 or 44(5) of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 (anaw 2) by the public services board of which the local authority is a member.

13

Mae adran 26 (cynlluniau plant a phobl ifanc: Cymru) wedi ei diddymu.

14

Yn adran 27—

a

yn is-adran (1)(a), yn lle’r geiriau “sections 25 and 26” rhodder “section 25”;

b

yn is-adran (1)(b), yn lle’r geiriau “those sections” rhodder “that section”;

c

“Responsibility for functions under section 25” fydd pennawd yr adran.

15

Yn adran 30(2)(a) (archwilio swyddogaethau o dan Ran 3), mae’r geiriau “or 26” wedi eu diddymu.

16

Yn adran 50A(2)(c) (ymyriad - Cymru), mae’r geiriau “, 26” wedi eu diddymu.

17

Mae adran 66(7) (y weithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 26) wedi ei diddymu.

18Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)

Ym mharagraff 35(4) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (gweithdrefnau’n ymwneud â phwerau penodol cyn cychwyn i wneud is-ddeddfwriaeth), yn Nhabl 2 mae’r eitemau sy’n ymwneud ag adran 26(2)(f) a (4) o Ddeddf Plant 2004 wedi eu diddymu.

19Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42)

Mae adran 40 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (strategaethau iechyd a llesiant yng Nghymru) wedi ei diddymu.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (mccc 2)

20

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

21

Mae Rhan 2 (Strategaethau cymunedol a chynllunio cymunedol) wedi ei diddymu.

22

Mae adrannau 48(2)(b), 50(5)(c) a 51(3) wedi eu diddymu.

23

Mae Atodlen 3 wedi ei diddymu.

Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1)

24

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

25

Yn adran 2(8), mae’r geiriau “ac adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31)” wedi eu diddymu.

26

Yn adran 4 (strategaethau a lunnir gan awdurdodau lleol)—

a

yn is-adran (1), yn lle’r geiriau “fydd yr awdurdod yn cyhoeddi cynllun o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31)” rhodder “gaiff cynllun llesiant lleol ei gyhoeddi o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod yn aelod ohono, ond dim ond os yw strategaeth yr awdurdod yn yn rhan gyfannol o’r cynllun hwnnw”; a

b

mae is-adrannau (2) a (3) wedi eu diddymu.

27

Yn adran 5 (strategaethau a lunnir gan awdurdodau Cymreig eraill)—

a

mae is-adran (4) wedi ei diddymu; a

b

yn is-adran (5), yn lle’r geiriau sy’n dechrau â “gynllun” hyd at ddiwedd yr isadran, rhodder “gynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal awdurdod lleol y mae’r awdurdod Cymreig yn arfer swyddogaethau ynddi.”.

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (mccc 7)

28

Mae Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

29

Yn adran 2 (Cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

2A

Caiff cynllun ei gofnodi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae pob un o’r partneriaid yn aelodau ohono.

30

Mae adran 11 (diwygio Deddf Plant 2004) wedi ei diddymu.

31Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4)

Mae adran 128 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (darpariaeth drosiannol mewn perthynas â phwerau cynghorau cymunedol i hyrwyddo llesiant) wedi ei diddymu.

32Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (dccc 3)

Yn adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd), ar ôl is-adran (3)(c) mewnosoder—

ca

ymchwiliad o dan adran 15 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) (ymchwiliadau o gyrff cyhoeddus at ddibenion asesu i ba raddau y mae corff wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy);

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)

33

Yn adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol), mae is-adrannau (3) a (4) wedi eu diddymu.

34

Ar ôl yr adran honno mewnosoder—

14ACynlluniau yn dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14

1

Yn yr adran hon, ystyr “corff perthnasol” yw awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd o dan adran 14(1).

2

Rhaid i bob corff perthnasol baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi—

a

ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r corff yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, mewn ymateb i’r asesiad o anghenion o dan baragraffau (a) i (c) o adran 14(1);

b

yn achos awdurdod lleol, ystod a lefel y gwasanaethau y mae’r awdurdod yn bwriadu eu darparu, neu drefnu i’w darparu, wrth geisio sicrhau’r dibenion yn adran 15(2) (gwasanaethau ataliol);

c

yn achos Bwrdd Iechyd Lleol, unrhyw beth y mae’r Bwrdd yn bwriadu ei wneud mewn cysylltiad â’i ddyletswydd o dan adran 15(5) (Byrddau Iechyd Lleol i roi sylw i bwysigrwydd camau ataliol wrth arfer swyddogaethau);

d

sut y mae’r gwasanaethau a nodir yn y cynllun i gael eu darparu, gan gynnwys y gweithredoedd y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd i ddarparu, neu drefnu i ddarparu, y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;

e

unrhyw weithredoedd eraill y mae’r corff yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r asesiad o dan adran 14(1);

f

manylion unrhyw beth y mae’r corff yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i’r asesiad ar y cyd â chorff perthnasol arall;

g

yr adnoddau sydd i’w neilltuo wrth wneud y pethau a nodir yn y cynllun.

3

Caniateir i gynllun corff perthnasol gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r corff yn aelod ohono.

4

Caiff awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi cynnal asesiad ar y cyd gyda’i gilydd o dan adran 14(1) baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2).

5

Caiff dau awdurdod lleol neu ragor baratoi a chyhoeddi cynllun ar y cyd o dan is-adran (2); ond ni chaniateir i gynllun ar y cyd o’r fath gael ei gyhoeddi drwy ei gynnwys o fewn cynllun llesiant lleol onid yw pob awdurdod lleol yn aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler adrannau 47 a 49 o Ddeddf 2015 (uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus)).

6

Rhaid i gorff perthnasol gyflwyno’r canlynol i Weinidogion Cymru—

a

unrhyw ran o gynllun a baratowyd ganddo o dan is-adran (2) sy’n ymwneud ag iechyd a llesiant gofalwyr;

b

unrhyw ran arall o gynllun o’r fath y caniateir ei ragnodi drwy reoliadau.

7

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynlluniau a baratoir ac a gyhoeddir o dan is-adran (2), gan gynnwys darpariaeth—

a

sy’n pennu pryd y mae cynllun i gael ei gyhoeddi;

b

ynghylch adolygu cynllun;

c

ynghylch ymgynghori â phersonau wrth baratoi neu adolygu cynllun;

d

ynghylch monitro a gwerthuso gwasanaethau a gweithredoedd eraill a nodir mewn cynllun.

35Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (dccc x)

Yn adran 5 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (cyhoeddi ac adolygu strategaethau lleol), ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

5A

Caniateir cyhoeddi strategaeth leol neu strategaeth ddiwygiedig drwy ei chynnwys o fewn cynllun llesiant lleol a gyhoeddir o dan adran 39 neu 44(5) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2) gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r awdurdod lleol a’r Bwrdd Iechyd Lleol ill dau yn aelodau ohono.