xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4(1)Yn y cyfarfod cyntaf, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gytuno ar ei gylch gorchwyl.
(2)Rhaid i’r cylch gorchwyl gynnwys—
(a)y weithdrefn i’w dilyn mewn cyfarfodydd dilynol i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;
(b)amserlen arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd dilynol;
(c)y weithdrefn ar gyfer gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30 i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;
(d)cynigion mewn perthynas â’r ffordd y mae’r bwrdd yn bwriadu cynnwys cyfranogwyr gwadd a’i bartneriaid eraill;
(e)cynigion ar gyfer cynnwys personau sydd, ym marn y bwrdd, â diddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal (yn ogystal ag ymgynghori â phersonau o’r fath yn unol ag adrannau 38(1)(k) a 43(1)(k));
(f)cynigion ar gyfer sefydlu un is-grŵp neu fwy gan gynnwys manylion y swyddogaethau i’w harfer gan unrhyw is-grŵp ar ran y bwrdd (ond gweler paragraff 6);
(g)y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r bwrdd;
(h)unrhyw delerau eraill mewn perthynas â gweithrediad y bwrdd sy’n briodol yn nhyb yr aelodau.
(3)O ran bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—
(a)rhaid iddo adolygu ei gylch gorchwyl ym mhob cyfarfod a gynhelir o dan baragraff 3(1), a
(b)caiff ei adolygu mewn unrhyw gyfarfod arall.
(4)Yn dilyn adolygiad, caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddiwygio ei gylch gorchwyl.