Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

(cyflwynwyd gan adran 34)

ATODLEN 3BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS: DARPARIAETH BELLACH

This schedule has no associated Explanatory Notes

Cworwm

1Cworwm bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yw pob un o’i aelodau.

Cyfarfod cyntaf

2(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y sefydlwyd y bwrdd.

(2)Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod cyntaf bwrdd.

Cyfarfodydd gorfodol

3(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod heb fod yn hwyrach na 60 diwrnod ar ôl dyddiad pob etholiad cyffredin a gynhelir o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr).

(2)Rhaid i awdurdod lleol gadeirio cyfarfod a gynhelir o dan is-baragraff (1).

Cylch gorchwyl

4(1)Yn y cyfarfod cyntaf, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gytuno ar ei gylch gorchwyl.

(2)Rhaid i’r cylch gorchwyl gynnwys—

(a)y weithdrefn i’w dilyn mewn cyfarfodydd dilynol i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;

(b)amserlen arfaethedig ar gyfer cyfarfodydd dilynol;

(c)y weithdrefn ar gyfer gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30 i’r graddau nad yw wedi ei phennu yn y Ddeddf hon;

(d)cynigion mewn perthynas â’r ffordd y mae’r bwrdd yn bwriadu cynnwys cyfranogwyr gwadd a’i bartneriaid eraill;

(e)cynigion ar gyfer cynnwys personau sydd, ym marn y bwrdd, â diddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal (yn ogystal ag ymgynghori â phersonau o’r fath yn unol ag adrannau 38(1)(k) a 43(1)(k));

(f)cynigion ar gyfer sefydlu un is-grŵp neu fwy gan gynnwys manylion y swyddogaethau i’w harfer gan unrhyw is-grŵp ar ran y bwrdd (ond gweler paragraff 6);

(g)y weithdrefn ar gyfer datrys anghytuno rhwng aelodau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau’r bwrdd;

(h)unrhyw delerau eraill mewn perthynas â gweithrediad y bwrdd sy’n briodol yn nhyb yr aelodau.

(3)O ran bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)rhaid iddo adolygu ei gylch gorchwyl ym mhob cyfarfod a gynhelir o dan baragraff 3(1), a

(b)caiff ei adolygu mewn unrhyw gyfarfod arall.

(4)Yn dilyn adolygiad, caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddiwygio ei gylch gorchwyl.

Cymorth gweinyddol

5Rhaid i’r awdurdod lleol beri bod cymorth gweinyddol ar gael i’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus.

Is-grwpiau a dirprwyo

6(1)O ran is-grŵp o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)rhaid iddo gynnwys o leiaf un aelod o’r bwrdd, a

(b)caiff gynnwys unrhyw gyfranogwr a wahoddir neu bartner arall.

(2)Caiff is-grŵp arfer unrhyw rai o swyddogaethau’r bwrdd ag y mae’r bwrdd yn ei awdurdodi yn ei gylch gorchwyl.

(3)Ond ni chaiff y cylch gorchwyl hwnnw awdurdodi is-grŵp i—

(a)gwahodd personau i gyfranogi o dan adran 30;

(b)gosod, adolygu neu ddiwygio amcanion lleol y bwrdd;

(c)paratoi a chyhoeddi asesiad llesiant o dan adran 37;

(d)ymgynghori o dan adran 38 neu baratoi drafft o asesiad o dan adran 37 at ddiben ymgynghori;

(e)paratoi neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol;

(f)ymgynghori o dan adran 43 neu paratoi drafft o gynllun llesiant lleol at ddiben ymgynghori;

(g)adolygu neu ddiwygio cynllun llesiant lleol neu gyhoeddi cynllun llesiant lleol diwygiedig;

(h)ymgynghori o dan adran 44;

(i)cytuno i’r bwrdd—

(i)uno â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus arall o dan adran 47(1), neu

(ii)cydlafurio â bwrdd arall o dan adran 48(1).

Cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd

7(1)Rhaid i bob aelod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael ei gynrychioli mewn cyfarfod gan—

(a)yr unigolyn a bennir mewn perthynas â’r aelod hwnnw yn y Tabl canlynol, neu

(b)unrhyw unigolyn arall y mae’r unigolyn y cyfeirir ato ym mharagraff (a) yn ei ddynodi (ond ni chaiff maer etholedig neu arweinydd gweithredol awdurdod lleol ond ddynodi aelod arall o weithrediaeth yr awdurdod).

TABL 2

AelodCynrychiolydd
Awdurdod lleolMaer etholedig yr awdurdod neu’r cynghorydd sydd wedi ei ethol fel arweinydd gweithredol yr awdurdod, a pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod a ddynodir o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).
Bwrdd Iechyd Lleol

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

(a)

y cadeirydd;

(b)

y prif swyddog;

(c)

y ddau.

Awdurdod tân ac achub yng Nghymru

Pa rai bynnag o’r canlynol y mae’r bwrdd yn eu dynodi—

(a)

y cadeirydd;

(b)

y prif swyddog;

(c)

y ddau.

Corff Adnoddau Naturiol CymruY prif weithredwr

(2)Mae i “maer etholedig” ac “arweinydd gweithredol” yr un ystyr ag a roddir i “elected mayor” ac “executive leader” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(3)Mae cyfranogwr gwadd i gael ei gynrychioli mewn cyfarfod o fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gan yr unigolyn a ddynodir gan y cyfranogwr.

(4)Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wahodd unrhyw rai o’i bartneriaid eraill i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r bwrdd (neu unrhyw ran o gyfarfod o’r fath).

(5)Mae partner arall o’r fath i gael ei gynrychioli yn y cyfarfod gan yr unigolyn a bennir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn y gwahoddiad.