ATODLEN 2COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

Staff

9(1)Caiff y Comisiynydd benodi unrhyw staff y mae’r Comisiynydd yn eu hystyried yn briodol o ran arfer swyddogaethau’r Comisiynydd a rhaid iddo benodi aelod o staff i fod yn Ddirprwy Gomisiynydd (gweler paragraff 11).

(2)Caiff y Comisiynydd dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau staff y Comisiynydd.

(3)Caiff y Comisiynydd dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a chynhaliaeth) ac arian rhodd i aelodau staff y Comisiynydd.

(4)Caiff y Comisiynydd dalu—

(a)pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd, a

(b)symiau ar gyfer darparu, neu tuag at ddarparu, pensiynau i bersonau, neu mewn cysylltiad â phersonau, sydd wedi bod yn aelodau o staff y Comisiynydd.

(5)Rhaid i’r Comisiynydd gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru o ran—

(a)nifer yr aelodau o staff y caniateir eu penodi;

(b)telerau ac amodau gwasanaeth y staff;

(c)unrhyw daliadau y bwriedir eu gwneud o dan is-baragraffau (2) i (4).