xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL CYMRU

Swyddog cyfrifyddu

18(1)Y Comisiynydd yw’r swyddog cyfrifyddu ar gyfer swyddfa’r Comisiynydd.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, o ran cyfrifon a chyllid y Comisiynydd, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan y Trysorlys.

(3)Yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at gyfrifoldebau yn cynnwys—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Comisiynydd;

(c)cyfrifoldeb am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau’r Comisiynydd.

(4)Mae’r cyfrifoldebau y caniateir eu pennu o dan y paragraff hwn yn cynnwys cyfrifoldebau sy’n ddyledus i’r canlynol—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol, Gweinidogion Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)Tŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

(5)Os gofynnir iddo wneud hynny gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin (“Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin”), caiff Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)cymryd tystiolaeth gan y swyddog cyfrifyddu ar ran Pwyllgor Tŷ’r Cyffredin,

(b)cyflwyno adroddiad i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin ar y dystiolaeth a gymerwyd, ac

(c)trosglwyddo’r dystiolaeth a gymerwyd i Bwyllgor Tŷ’r Cyffredin.

(6)Mae adran 13 o Ddeddf Archwilio Cenedlaethol 1983 (p.44) (dehongli cyfeiriadau at Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin) yn gymwys at ddibenion y paragraff hwn yn yr un modd ag y mae’n gymwys at ddibenion y Ddeddf honno.