Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Adroddiadau blynyddol

This section has no associated Explanatory Notes

17(1)Rhaid i’r Comisiynydd lunio adroddiad mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol (“adroddiad blynyddol”).

(2)Blwyddyn ariannol gyntaf y Comisiynydd yw’r cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gwneir y penodiad cyntaf i swydd y Comisiynydd o dan adran 17 ac sy’n dod i ben ar y 31 Mawrth canlynol.

(3)Rhaid i adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)crynodeb o’r camau a gymerwyd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd yn y flwyddyn ariannol honno;

(b)dadansoddiad o effeithiolrwydd y camau hynny o ran galluogi gwireddu dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd (gweler adran 18);

(c)crynodeb o raglen waith y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn ariannol honno;

(d)cynigion y Comisiynydd ar gyfer rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol;

(e)crynodeb o’r cwynion a wnaed yn unol â’r weithdrefn a sefydlwyd o dan baragraff 12.

(4)Caiff adroddiad blynyddol gynnwys—

(a)asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn cyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;

(b)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiynydd yn ei hystyried yn briodol.

(5)Wrth baratoi adroddiad blynyddol, rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â—

(a)y panel cynghori, a

(b)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol.

(6)Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ganlynol.

(7)Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o bob adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru.

(8)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad blynyddol a anfonir atynt gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.