Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

RHAN 5DARPARIAETHAU TERFYNOL

52Ystyr “corff cyhoeddus”: darpariaeth bellach

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio adran 6(1) drwy—

(a)ychwanegu person,

(b)tynnu person ymaith, neu

(c)diwygio’r disgrifiad o berson.

(2)Ond ni chaiff y rheoliadau ond ddiwygio adran 6(1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.

(3)Os yw’r rheoliadau yn diwygio adran 6(1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw Rhannau 1 i 3 ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny sydd ganddo sydd o natur gyhoeddus.

(4)Cyn gwneud rheoliadau sy’n diwygio adran 6(1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd;

(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol;

(c)os yw’r rheoliadau yn diwygio adran 6(1) er mwyn ychwanegu person, y person hwnnw.

53Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, atodol, drosiannol neu arbed at ddibenion rhoi effaith lawn i un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon, neu mewn cysylltiad â hi.

(2)Caiff y rheoliadau (ymysg pethau eraill) ddiwygio, diddymu neu ddirymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y canlynol neu mewn offeryn a wnaed o dan y canlynol—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Mesur neu Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol (gan gynnwys y Ddeddf hon).

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at ddeddfiad yn cynnwys cyfeiriad at ddeddfiad sydd wedi ei phasio neu ei gwneud ar ôl pasio’r Ddeddf hon.

(4)Nid yw’r pŵer a ddyroddir gan yr adran hon wedi ei gyfyngu gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Ddeddf hon.

54Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys—

(a)pŵer i wneud gwahanol ddarpariaeth ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd;

(b)pŵer i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, canlyniadol, trosiannol neu atodol y mae Gweinidogion Cymru yn ei hystyried yn briodol.

(2)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(3)Caiff offeryn statudol sy’n cynnwys darpariaeth fel y ddarpariaeth a grybwyllir yn is-adran (1)(b), yn achos rheoliadau o dan adran 33(1), 40(3) neu 52(1), gynnwys darpariaeth sy’n diwygio deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y canlynol, neu mewn offeryn a wnaed o dan y canlynol—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Mesur neu Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol (gan gynnwys y Ddeddf hon).

(4)O ran offeryn statudol sy’n cynnwys y canlynol (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd gyda darpariaeth arall)—

(a)rheoliadau o dan adran 40(3) neu 52(1),

(b)rheoliadau o dan adran 33(1) sy’n diwygio adran 29(2) neu 30(1), neu

(c)rheoliadau o dan adran 53 sy’n diwygio neu’n diddymu darpariaeth Deddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol,

ni chaniateir iddynt gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ac wedi ei gymeradwyo gan ei benderfyniad.

(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddirymu yn unol â phenderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.

(6)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (3) at ddeddfiad yn cynnwys cyfeiriad at ddeddfiad a basiwyd neu a wnaed ar ôl pasio’r Ddeddf hon.

55Dehongli

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol” (“future trends report”) yr ystyr a roddir gan adran 11;

  • ystyr “amcanion lleol” (“local objectives”) yw amcanion a osodir gan fwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn unol ag adran 36(2)(b);

  • ystyr “amcanion llesiant” (“well-being objectives”) yw amcanion a gyhoeddir o dan adran 7 neu a ddiwygir ac a gyhoeddir fel y’u diwygiwyd o dan adran 8 neu 9;

  • ystyr “ardal heddlu” (“police area”) yw ardal a restrir o dan y pennawd “Wales” yn Atodlen 1 i Ddeddf yr Heddlu 1996 (p.16) (ardaloedd heddlu y tu allan i Lundain);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “awdurdod tân ac achub yng Nghymru” (“Welsh fire and rescue authority”) yw’r awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • mae i “bwrdd gwasanaethau cyhoeddus” (“public services board”) yr ystyr a roddir gan adran 29 a 47(4)(a);

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);

  • ystyr “y Comisiynydd” (“the Commissioner”) yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru;

  • mae i “corff cyhoeddus” (“public body”) yr ystyr a roddir gan adrannau 6 a 52;

  • mae i “cyfranogwr gwadd” (“invited participant”) yr ystyr a roddir gan adran 30(5);

  • ystyr “cynllun llesiant lleol” (“local well-being plan”) yw cynllun a gyhoeddwyd o dan adran 39 neu a ddiwygiwyd ac a gyhoeddwyd fel y’i diwygiwyd o dan adran 44(5);

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • mae i “dangosyddion cenedlaethol” (“national indicators”) yr ystyr a roddir gan adran 10(1)(a);

  • mae i “datblygu cynaliadwy” (“sustainable development”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • mae i “egwyddor datblygu cynaliadwy” (“sustainable development principle”) yr ystyr a roddir iddi gan adran 5;

  • ystyr “nodau llesiant” (“well-being goals”) yw’r nodau a bennir yn adran 4;

  • ystyr “y panel cynghori” (“the advisory panel”) yw’r panel o gynghorwyr a sefydlwyd o dan adran 26;

  • ystyr “partneriaid eraill” (“other partners”), mewn perthynas â bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, yw’r cyrff a nodir yn adran 32(1);

  • ystyr “Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly’s Public Accounts Committee”) yw’r pwyllgor y cyfeirir ato fel y “Pwyllgor Archwilio” yn adran 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32);

  • mae “pwyllgor trosolwg a chraffu” (“overview and scrutiny committee”) i’w ddehongli yn unol ag adran 35(4);

  • mae i “undeb llafur” (“trade union”) yr ystyr a roddir yn adran 1 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (p.52).

(2)Yn Rhan 4 o’r ddeddf hon, ystyr “mudiad gwirfoddol perthnasol” yw corff (ac eithrio corff sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) y mae ei weithgareddau—

(a)yn cael eu cyflawni am reswm heblaw am wneud elw, a

(b)er budd ardal gyfan bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, neu ran o’r ardal, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

(3)Mae landlord cymdeithasol cofrestredig (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996) sy’n darparu tai yn yr ardal awdurdod lleol yn fudiad gwirfoddol perthnasol at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf hon.

56Cychwyn

(1)Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adrannau 53 i 55, yr adran hon ac adran 57;

(b)unrhyw ddarpariaeth arall i’r graddau y bo’n angenrheidiol i alluogi arfer ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol unrhyw bŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar y diwrnod hwnnw y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy orchymyn.

(3)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)caiff bennu gwahanol ddiwrnodau ar gyfer gwahanol ddibenion neu ardaloedd;

(b)caiff gynnwys darpariaeth drosiannol neu arbed.

(4)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan is-adran (2) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

57Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.