Search Legislation

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

RHAN 4BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS

PENNOD 1SEFYDLU, CYFRANOGIAD A CHRAFFU

29Byrddau gwasanaethau cyhoeddus

(1)Sefydlir bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

(2)Dyma aelodau pob bwrdd—

(a)yr awdurdod lleol;

(b)y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;

(c)yr awdurdod tân ac achub yng Nghymru ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;

(d)Corff Adnoddau Naturiol Cymru.

(3)Yn y Rhan hon, mae unrhyw gyfeiriad at “bwrdd gwasanaethau cyhoeddus” (neu “fwrdd”) yn gyfeiriad at aelodau’r bwrdd hwnnw yn gweithredu ar y cyd; yn unol â hynny, mae swyddogaeth a fynegir fel un o swyddogaethau bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn swyddogaeth i bob aelod o’r bwrdd na ellir ond ei harfer ar y cyd â’r aelodau eraill.

30Gwahoddiadau i gyfranogi

(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal awdurdod lleol wahodd y personau a ganlyn i gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)prif gwnstabl yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;

(c)y comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol;

(d)person y mae’n ofynnol iddo, yn unol â threfniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p.21), ddarparu gwasanaethau prawf mewn perthynas â’r ardal awdurdod leol;

(e)o leiaf un corff sy’n cynrychioli mudiadau gwirfoddol perthnasol (pa un ai Cyngor Gwirfoddol Sirol y gelwir y corff ai peidio).

(2)Caiff pob bwrdd wahodd unrhyw berson arall sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus i gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd, hyd yn oed os yw’r person hwnnw hefyd yn arfer swyddogaethau eraill.

(3)Yn yr adran hon ac yn adran 31, mae unrhyw gyfeiriad at gyfranogi yng ngweithgarwch bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn gyfeiriad at gydweithio â’r bwrdd, unrhyw aelod ohono neu unrhyw berson arall sy’n derbyn gwahoddiad i gyfranogi o dan yr adran hon, ar unrhyw beth a wna’r bwrdd o dan adran 36 (Dyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus).

(4)Yn is-adran (3), mae “cydweithio” yn cynnwys—

(a)cyflwyno sylwadau i’r bwrdd ynghylch cynnwys—

(i)asesiad o dan adran 37, neu

(ii)cynllun llesiant lleol, cynllun drafft neu ddiwygiadau arfaethedig i gynllun (gweler adrannau 43(1) a 44(4)),

(b)cymryd rhan yng nghyfarfodydd y bwrdd (sy’n cynnwys, ar wahoddiad aelodau’r bwrdd ac yn ddarostyngedig i baragraffau 2(1) a 3(1) o Atodlen 3, cadeirio’r cyfarfodydd), ac

(c)darparu cyngor a chymorth arall i’r bwrdd.

(5)Mewn perthynas â pherson sy’n derbyn gwahoddiad i gyfranogi yng ngweithgarwch bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “cyfranogwr gwadd”; ond

(b)nid yw’n dod yn aelod o’r bwrdd yn rhinwedd y ffaith ei fod yn derbyn y gwahoddiad.

(6)Nid yw’r cyfeiriad yn is-adran (4)(c) at ddarparu cymorth i’r bwrdd yn cynnwys darparu cymorth ariannol.

31Gwahoddiadau i gyfranogi: dyroddi, ymateb a hyd y cyfranogiad

(1)Rhaid i wahoddiad o dan adran 30(1) gael ei ddyroddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol yn dilyn—

(a)cyfarfod cyntaf bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler paragraff 2(1) o Atodlen 3), a

(b)pob cyfarfod a gynhelir o dan baragraff 3(1) o’r Atodlen honno.

(2)Mewn perthynas â gwahoddiad o dan adran 30(1) neu (2)—

(a)caiff fod ar ba ffurf bynnag y bydd y bwrdd yn penderfynu arno; ond

(b)rhaid iddo bennu’r person y dylid anfon ymateb ato.

(3)Caiff cyfranogwr gwadd gyfranogi yng ngweithgarwch bwrdd yn y cyfnod—

(a)sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw’r ymateb yn derbyn y gwahoddiad i law’r person y dylid anfon ymateb ato, a

(b)sy’n dod i ben ar y dyddiad y cynhelir yr etholiad arferol nesaf o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (ethol cynghorwyr).

32Partneriaid eraill

(1)Dyma bartneriaid eraill bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)cyngor cymuned ar gyfer cymuned mewn ardal sydd o fewn yr ardal awdurdod lleol (neu y mae unrhyw ran ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol) (ond gweler hefyd adran 40);

(b)ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru;

(c)Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer ardal sydd o fewn yr ardal awdurdod lleol (neu y mae unrhyw rhan ohoni o fewn yr ardal awdurdod lleol);

(d)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru y mae unrhyw ran ohono o fewn yr ardal awdurdod lleol;

(e)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(f)sefydliad yn y sector addysg bellach neu’r sector addysg uwch sydd wedi ei leoli yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn yr ardal awdurdod lleol;

(g)Cyngor Celfyddydau Cymru;

(h)Cyngor Chwaraeon Cymru;

(i)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

(j)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

(2)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i fwrdd—

(a)gofyn am gyngor ei bartneriaid eraill, a

(b)eu cynnwys fel arall yn y fath fodd ac i’r fath raddau ag sy’n briodol yn eu barn hwy.

(3)Yn is-adran (1)(f), mae i “sector addysg bellach” a “sector addysg uwch” yr un ystyr ag a roddir i “further education sector” a “higher education sector” yn Neddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13).

33Newidiadau mewn cyfranogiad

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio adrannau 29(2), 30(1) neu 32(1) drwy—

(a)ychwanegu person,

(b)tynnu person ymaith, neu

(c)diwygio’r disgrifiad o berson.

(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ond ddiwygio adrannau 29(2), 30(1) neu 32(1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw yn arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygio adran 29(2), 30(1) neu 32(1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw’r Rhan hon ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny sydd ganddo o natur gyhoeddus.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)aelodau, cyfranogwyr gwadd a phartneriaid eraill y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y mae’r rheoliadau arfaethedig yn ymwneud â hwy, a

(b)os bydd y rheoliadau hynny yn diwygio adran 29(2), 30(1) neu 32(1) er mwyn ychwanegu person, y person hwnnw.

34Cyfarfodydd a chylch gorchwyl

Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch byrddau gwasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys darpariaeth ynghylch eu cyfarfodydd a’u cylch gorchwyl).

35Pwyllgor trosolwg a chraffu awdurdod lleol

(1)Rhaid i drefniadau gweithredol awdurdod lleol o dan Adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) sicrhau bod gan ei bwyllgor trosolwg a chraffu y pŵer—

(a)i adolygu’r penderfyniadau, neu i graffu ar y penderfyniadau, a wneir gan y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr ardal awdurdod lleol wrth arfer ei swyddogaethau, neu i wneud hynny mewn perthynas â’r camau eraill a gymerir ganddo wrth arfer ei swyddogaethau;

(b)i adolygu trefniadau llywodraethu y bwrdd neu i graffu arnynt;

(c)i gyflwyno adroddiadau neu argymhellion i’r bwrdd mewn perthynas â swyddogaethau neu drefniadau llywodraethu y bwrdd;

(d)i ystyried y materion hynny mewn perthynas â’r bwrdd y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfeirio ato, ac i adrodd i Weinidogion Cymru yn unol â hynny;

(e)i ymgymryd â’r swyddogaethau eraill hynny mewn perthynas â’r bwrdd a osodir arno gan y Ddeddf hon.

(2)Rhaid i bwyllgor trosolwg a chraffu anfon copi o unrhyw adroddiad neu argymhelliad a wneir o dan is-adran (1)(c) at—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Comisiynydd;

(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

(3)Caiff pwyllgor trosolwg a chraffu, at ddiben arfer pŵer a grybwyllir yn is-adran (1), ei gwneud yn ofynnol i un neu ragor o’r personau a gaiff fynychu un o gyfarfodydd y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (gweler paragraff 7 o Atodlen 3), neu unrhyw un a ddynodir gan berson o’r fath, fynychu un o gyfarfodydd y pwyllgor a darparu eglurhad iddo ar y materion hynny y caiff y pwyllgor eu pennu.

(4)Pan fo gan awdurdod lleol fwy nag un pwyllgor trosolwg a chraffu, mae’r cyfeiriadau yn y Rhan hon at ei bwyllgor trosolwg a chraffu yn gyfeiriad at y pwyllgor a ddynodir gan yr awdurdod lleol at ddibenion yr adran hon.

PENNOD 2GWELLA LLESIANT LLEOL

Dyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus

36Dyletswydd llesiant ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus

(1)Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ei ardal drwy gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Rhaid i gyfraniad bwrdd gwasanaethau cyhoeddus at gyrraedd y nodau gynnwys—

(a)asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal (gweler adrannau 37 a 38),

(b)gosod amcanion (“amcanion lleol”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf o fewn ei ardal at gyrraedd y nodau hynny, ac

(c)bod aelodau’r bwrdd yn cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer eu swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny (ond gweler adran 39(2)(b)).

(3)Rhaid i unrhyw beth y mae bwrdd gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud o dan yr adran hon gael ei wneud yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

(4)Mae adrannau 39 i 45 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau llesiant lleol gan gynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus nodi mewn cynlluniau o’r fath eu hamcanion lleol a’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i’w cyflawni.

Asesiadau llesiant lleol

37Asesiadau llesiant lleol

(1)Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal.

(2)Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi’r asesiad ymhen dim mwy na blwyddyn cyn y dyddiad y mae cynllun llesiant lleol i’w gyhoeddi o dan is-adran (6) neu (7) o adran 39.

(3)Rhaid i asesiad—

(a)pennu’r ardaloedd r cymunedol sy’n ffurfio ardal y bwrdd;

(b)cynnwys dadansoddiad o gyflwr llesiant ym mhob ardal gymunedol ac yn yr ardal yn ei chyfanrwydd;

(c)cynnwys dadansoddiad o gyflwr llesiant y bobl yn yr ardal;

(d)cynnwys unrhyw ddadansoddiad pellach y mae’r bwrdd yn ei gynnal drwy gyfeirio at feini prawf a osodir ac a gymhwysir ganddo at ddiben asesu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal neu mewn unrhyw gymuned o fewn yr ardal;

(e)cynnwys rhagfynegiadau o dueddiadau tebygol ar gyfer y dyfodol yn llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal;

(f)cynnwys unrhyw ddata a gwybodaeth ddadansoddol gysylltiedig arall y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol.

(4)Rhaid i ddadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (3)—

(a)cyfeirio at unrhyw ddangosyddion cenedlaethol a gyhoeddwyd o dan adran 10;

(b)cyfeirio at adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol o dan adran 11 i’r graddau y mae’n berthnasol i asesu llesiant yn yr ardal.

(5)Mae’r ardaloedd r cymunedol sy’n ffurfio ardal bwrdd i’w pennu—

(a)yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, neu

(b)os nad oes rheoliadau o’r fath wedi eu gwneud, gan y bwrdd.

(6)Caiff y dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (3)(c) gynnwys dadansoddiadau o gategorïau penodol o bersonau y penderfyna’r bwrdd arnynt drwy gyfeirio at—

(a)y ffaith bod personau’n hyglwyf neu o dan anfantais fel arall am yr un rhesymau neu am resymau tebyg;

(b)bod y personau’n meddu ar nodwedd warchodedig gyffredin o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15);

(c)bod y personau’n blant (personau o dan 18 oed);

(d)bod y personau’n bobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) fel y’u disgrifir yn adran 104 o’r Ddeddf honno;

(e)a yw’r personau—

(i)yn bersonau y gallai fod arnynt angen gofal a chymorth (fel y’u disgrifir yn Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)); neu

(ii)yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal a chymorth i bersonau y gallai fod ei angen arnynt;

(f)unrhyw ffactor cyffredin arall y mae’r Bwrdd yn ei ystyried yn briodol wrth ddisgrifio categori o bersonau.

(7)Rhaid i bob bwrdd anfon copi o’i asesiad at—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Comisiynydd;

(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(d)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol.

38Paratoi asesiadau

(1)Cyn cyhoeddi ei asesiad o dan adran 37, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd;

(b)cyfranogwyr gwadd y bwrdd;

(c)ei bartneriaid eraill;

(d)y cyfryw bersonau na wnaethant dderbyn gwahoddiad a gawsant gan y bwrdd o dan adran 30 ag y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;

(e)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol;

(f)unrhyw fudiad gwirfoddol perthnasol y mae’r bwrdd yn ei ystyried yn briodol;

(g)cynrychiolwyr personau sy’n preswylio yn ei ardal;

(h)cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yn ei ardal;

(i)undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yn ei ardal;

(j)y personau hynny sydd â diddordeb mewn cynnal a gwella adnoddau naturiol y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;

(k)unrhyw bersonau eraill y mae ganddynt, ym marn y bwrdd, ddiddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.

(2)Fel rhan o’r ymgynghoriad o dan is-adran (1), rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddarparu drafft o’i asesiad i bob ymgynghorai.

(3)Wrth baratoi ei asesiad, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ystyried pob un o’r canlynol—

(a)yr adroddiad sy’n cynnwys asesiad o’r risgiau i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i effaith bresennol newid yn yr hinsawdd, a’r effaith a ragwelir, a anfonwyd yn fwyaf diweddar at Weinidogion Cymru o dan adran 56(6) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27);

(b)yr adolygiad diweddaraf o ddigonolrwydd y ddarpariaeth addysg feithrin ar gyfer yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd o dan adran 119(5)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);

(c)yr asesiad diweddaraf o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant yn yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 26(1) o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p.21);

(d)yr asesiad diweddaraf o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd o dan adran 11(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1);

(e)yr asesiad diweddaraf a gynhaliwyd gan yr awdurdod lleol ar y cyd â Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol);

(f)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37) sy’n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn yn yr ardal awdurdod lleol;

(g)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal awdurdod lleol;

(h)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â lleihau aildroseddu yn yr ardal awdurdod lleol;

(i)y cyfryw adolygiad neu asesiad arall mewn perthynas â’r ardal awdurdod lleol a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (neu unrhyw ddadansoddiad arall a ddynodir mewn rheoliadau o’r fath fel adolygiad neu asesiad at ddiben yr adran hon).

Cynlluniau llesiant lleol

39Cynlluniau llesiant lleol

(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi cynllun (“cynllun llesiant lleol”) sy’n nodi ei amcanion lleol a’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i’w cyflawni.

(2)Caiff y cynllun gynnwys amcanion—

(a)sydd hefyd yn amcanion llesiant a gyhoeddwyd o dan Ran 2 gan aelod o’r bwrdd;

(b)sydd i’w cyflawni drwy gymryd camau—

(i)gan un neu ragor o aelodau o’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill sy’n gweithredu’n unigol, neu

(ii)unrhyw gyfuniad o aelodau, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill sy’n gweithredu ar y cyd.

(3)Ond ni chaniateir i gynllun gynnwys amcan sydd i’w gyflawni drwy gamau sydd i’w cymryd gan gyfranogwr gwadd neu bartner arall (pa un ai yn unigol neu ar y cyd mewn unrhyw gyfuniad o aelodau, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill) ond os yw’r bwrdd wedi cael cydsyniad y cyfranogwr gwadd neu’r partner arall hwnnw, yn ôl y digwydd.

(4)Wrth osod ei amcanion llesiant rhaid i fwrdd ystyried adroddiad y Comisiynydd o dan adran 23.

(5)Rhaid i gynllun llesiant lleol gynnwys datganiad—

(a)sy’n egluro pam y mae’r bwrdd yn ystyried y bydd cyflawni’r amcanion lleol yn cyfrannu o fewn yr ardal at gyrraedd y nodau llesiant;

(b)sy’n egluro sut y mae’r amcanion ac unrhyw gamau arfaethedig wedi eu gosod mewn cysylltiad ag unrhyw faterion a grybwyllir yn yr asesiad diweddaraf o lesiant a gyhoeddwyd o dan adran 37;

(c)sy’n pennu’r cyfnodau amser y mae’r bwrdd yn disgwyl cyflawni’r amcanion o fewn iddynt;

(d)sy’n egluro sut y mae unrhyw gamau arfaethedig i’w cymryd yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;

(e)os yw’r cynllun yn cynnwys amcanion y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(b), sy’n pennu’r camau arfaethedig i’w cymryd er mwyn cyflawni’r amcanion hynny ac, yn achos camau i’w cymryd gan gyfuniad o aelodau’r bwrdd, cyfranogwyr gwadd neu bartneriaid eraill, y personau sydd yn y cyfuniad;

(f)os nad y cynllun cyntaf i’r bwrdd ei gyhoeddi yw’r cynllun, sy’n pennu’r camau a gymerwyd i gyflawni’r amcanion a nodir yng nghynllun blaenorol y bwrdd a phennu i ba raddau y mae’r amcanion hynny wedi eu cyflawni;

(g)sy’n darparu unrhyw wybodaeth arall y mae’r bwrdd yn ei hystyried yn briodol.

(6)Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi ei gynllun llesiant lleol heb fod yn hwyrach nag un flwyddyn ar ôl y dyddiad y cynhelir yr etholiad arferol nesaf o dan adran 26 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) ar ôl cychwyn yr adran hon.

(7)Yn dilyn hynny, rhaid i bob bwrdd gyhoeddi cynllun llesiant lleol ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl y dyddiad y cynhelir bob etholiad arferol wedi hynny o dan yr adran honno.

(8)Rhaid i bob bwrdd anfon copi o’i gynllun at—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Comisiynydd;

(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(d)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol.

40Cynlluniau llesiant lleol: rôl cynghorau cymuned

(1)Rhaid i gyngor cymuned gymryd pob cam rhesymol yn ei ardal tuag at gyflawni’r amcanion lleol a gynhwysir yn y cynllun llesiant lleol sy’n cael effaith yn ei ardal.

(2)Ond nid yw cyngor cymuned yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) ond os oedd, ar gyfer y tair blynedd ariannol flaenorol cyn i’r cynllun llesiant lleol ar gyfer ei ardal gael ei gyhoeddi, ei incwm gros neu ei wariant gros yn £200,000 o leiaf.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, ddiwygio’r meini prawf a bennir gan is-adran (2) ar gyfer dyfarnu a yw cyngor cymunedol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1); a chaiff y rheoliadau adlewyrchu’r ddarpariaeth a wneir am gynghorau cymunedol mewn rheoliadau o dan adran 39 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p.23).

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd;

(b)y cynghorau cymuned a fyddai’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) pe bai’r rheoliadau yn cael eu gwneud;

(c)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(5)Rhaid i gyngor cymuned gyhoeddi, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol yr oedd yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn is-adran (1), adroddiad ar y cynnydd y mae wedi ei wneud yn ei ardal o ran cyflawni’r amcanion lleol sydd yn y cynllun llesiant lleol sydd mewn grym yn ei ardal.

(6)Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (5) gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r cynghorau cymuned sy‘n ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) ynghylch arfer y ddyletswydd.

(8)Wrth arfer y ddyletswydd o dan is-adran (1), rhaid i gyngor cymuned ystyried canllawiau o’r fath.

41Paratoi cynlluniau llesiant lleol: gwybodaeth am weithgarwch eraill

(1)Wrth baratoi ei gynllun llesiant lleol (a chyn ymgynghori o dan adran 43), caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a grybwyllir yn is-adran (2) i ddarparu gwybodaeth i’r bwrdd ynghylch unrhyw weithred y mae’n ei chyflawni a allai gyfrannu o fewn ardal y bwrdd at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Y personau yw—

(a)y personau a wahoddir i gyfranogi yng ngweithgarwch y bwrdd, heblaw am Weinidogion Cymru (gweler adran 30);

(b)partneriaid eraill y bwrdd (gweler adran 32).

(3)Ond nid yw’n ofynnol i berson a grybwyllir yn is-adran (2) ddarparu gwybodaeth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)os yw’r person yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(i)yn anghydnaws â‘i ddyletswyddau, neu

(ii)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau, neu

(b)os yw’r person wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(4)Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (2) yn penderfynu, drwy ddibynnu ar is-adran (3)(a), nad yw’n ofynnol iddo ddarparu gwybodaeth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus, rhaid iddo roi resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad i’r bwrdd.

42Paratoi cynlluniau llesiant lleol: cyngor y Comisiynydd

(1)Wrth baratoi ei gynllun llesiant lleol (a chyn ymgynghori o dan adran 43), rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus geisio cyngor y Comisiynydd o ran sut i gymryd camau i gyflawni’r amcanion lleol i’w cynnwys yn y cynllun yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

(2)Rhaid i’r Comisiynydd roi’r cyngor—

(a)yn ysgrifenedig, a

(b)ymhen dim llai na 14 o wythnosau ar ôl ei geisio.

(3)Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi cyngor y Comisiynydd yr un pryd ag y mae’n cyhoeddi’r cynllun llesiant lleol.

43Paratoi cynlluniau llesiant lleol: ymgynghori pellach a chymeradwyaeth

(1)Cyn cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd (ar ôl cael cyngor gan y Comisiynydd o dan adran 42(2));

(b)ei gyfranogwyr gwadd;

(c)ei bartneriaid eraill;

(d)y cyfryw bersonau na wnaethant dderbyn gwahoddiad a gawsant gan y bwrdd o dan adran 30 ag y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;

(e)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol;

(f)unrhyw fudiad gwirfoddol perthnasol y mae’r bwrdd yn ei ystyried yn briodol;

(g)cynrychiolwyr personau sy’n preswylio yn ei ardal;

(h)cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yn ei ardal;

(i)undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yn ei ardal;

(j)y personau hynny sydd â diddordeb mewn cynnal a gwella adnoddau naturiol yn ardal y bwrdd y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;

(k)unrhyw bersonau eraill sydd, ym marn y bwrdd, â buddiant mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.

(2)Fel rhan o’r ymgynghoriad o dan is-adran (1), rhaid i bob bwrdd ddarparu cynllun llesiant lleol drafft i bob ymgynghorai.

(3)Rhaid i’r ymgynghoriad o dan is-adran (1) beidio â dod i ben hyd nes bod o leiaf 12 wythnos wedi mynd heibio ers y diwrnod y dechreuodd yr ymgynghoriad.

(4)Cyn cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gynnal cyfarfod lle mae pob aelod yn cadarnhau ei fod yn cymeradwyo’r cynllun ar gyfer ei gyhoeddi.

(5)Os yw’r awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithredol o dan Ran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), ni chaiff gweithrediaeth yr awdurdod arfer y swyddogaeth o gymeradwyo’r cynllun llesiant o dan y trefniadau hynny; at hynny nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (cyflawni swyddogaethau gan bwyllgorau etc.) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.

(6)Yn achos pob Bwrdd Iechyd Lleol, pob awdurdod tân ac achub yng Nghymru a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, ni cheir arfer y swyddogaeth o gymeradwyo’r cynllun llesiant lleol ond mewn cyfarfod o’r corff o dan sylw.

44Adolygu cynlluniau llesiant lleol

(1)Caiff bwrdd gwasanaethau cyhoeddus—

(a)adolygu a diwygio ei amcanion lleol;

(b)adolygu a diwygio ei gynllun llesiant lleol (a rhaid iddo ddiwygio ei gynllun os yw wedi diwygio ei amcanion lleol).

(2)O ran pob bwrdd—

(a)rhaid iddo adolygu ei amcanion lleol neu ei gynllun llesiant lleol os yw’n cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, a

(b)caiff ddiwygio ei amcanion neu ddiwygio ei gynllun o ganlyniad i adolygiad o’r fath.

(3)Wrth roi cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau am ei roi.

(4)Cyn diwygio ei gynllun, rhaid i bob bwrdd ymgynghori â’r canlynol—

(a)y Comisiynydd;

(b)y personau y soniwyd amdanynt yn adran 43(1).

(5)Rhaid i gynllun diwygiedig gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(6)Rhaid i fwrdd anfon copi o’i gynllun diwygiedig at y canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Comisiynydd;

(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(d)pwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.

45Adroddiadau cynnydd blynyddol

(1)Rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi adroddiad—

(a)ymhen dim mwy na 14 o fisoedd ar ôl cyhoeddi ei gynllun llesiant lleol, a

(b)yn dilyn hynny, ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl cyhoeddi bob adroddiad blaenorol o dan yr adran hon.

(2)Ond nid oes angen adroddiad o dan is-adran (1)(b) os yw cynllun llesiant lleol i’w gyhoeddi yn rhinwedd adran 39(7) (cyhoeddi cynllun llesiant lleol newydd ar ôl etholiad) ymhen dim mwy na blwyddyn ar ôl cyhoeddi’r adroddiad blaenorol o dan yr adran hon.

(3)Rhaid i adroddiad o dan yr adran hon bennu’r camau a gymerwyd ers cyhoeddi cynllun llesiant lleol diweddaraf y bwrdd i gyflawni’r amcanion a nodir yn y cynllun.

(4)Caiff adroddiad o dan yr adran hon gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae’r bwrdd yn ei hystyried yn briodol.

(5)Rhaid i fwrdd anfon copi o bob adroddiad a gyhoeddwyd o dan yr adran hon at y canlynol—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)y Comisiynydd;

(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(d)pwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod lleol.

Addasiadau canlyniadol

46Addasiadau i ddeddfiadau

Mae Atodlen 4 yn cynnwys diwygiadau a diddymiadau o ganlyniad i ddarpariaethau’r Rhan hon sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi asesiadau llesiant lleol (o dan adran 37) a chynlluniau llesiant lleol (o dan adran 39).

PENNOD 3AMRYWIOL

47Uno byrddau gwasanaethau cyhoeddus

(1)Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i uno os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i uno os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(3)Ond dim ond os y bodlonir y canlynol y caiff byrddau uno—

(a)mae’r un Bwrdd Iechyd Lleol yn aelod o bob bwrdd sy’n ceisio uno, neu sy’n cael eu cyfarwyddo i uno, a

(b)nid oes Bwrdd Iechyd Lleol arall yn aelod o unrhyw un o’r byrddau hynny.

(4)Os yw dau neu ragor o fyrddau yn uno—

(a)rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon (ac eithrio yn yr adran hon) at fwrdd gwasanaethau cyhoeddus gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y bwrdd unedig, a

(b)rhaid i gyfeiriadau yn y Rhan hon at ardal awdurdod lleol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at ardaloedd cyfunedig yr awdurdodau lleol sy’n aelodau o’r bwrdd unedig.

48Cydlafurio rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddus

(1)Caiff dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus gytuno i gydlafurio os ystyrir y byddai’n eu cynorthwyo i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo dau neu ragor o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i gydlafurio ym mha ffodd bynnag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n cynorthwyo’r byrddau i gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant.

(3)At ddibenion yr adran hon, mae bwrdd yn cydlafurio os yw’n—

(a)cydweithredu â bwrdd arall,

(b)hwyluso gweithgareddau bwrdd arall,

(c)cydgysylltu ei weithgareddau â bwrdd arall,

(d)arfer swyddogaethau bwrdd arall ar ei ran, neu

(e)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i fwrdd arall.

49Cyfarwyddydau i uno neu i gydlafurio

(1)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 47(2) neu 48(2) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob aelod o’r bwrdd gwasanaethau cyhoeddus y maent yn bwriadu eu cyfarwyddo.

(2)Wrth roi cyfarwyddyd o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi datganiad sy’n cynnwys eu rhesymau dros wneud hynny.

50Dangosyddion perfformiad a safonau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, bennu dangosyddion a safonau ar gyfer mesur perfformiad byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ran arfer ei swyddogaethau.

(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)aelodau y byrddau neu bersonau sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru fel pe baent yn cynrychioli’r aelodau hynny;

(b)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

51Canllawiau

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ynghylch arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Wrth arfer swyddogaeth o dan y Rhan hon, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ystyried canllawiau o’r fath.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Show Explanatory Notes for Sections: Displays relevant parts of the explanatory notes interweaved within the legislation content.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources