Asesiadau llesiant lleol
37Asesiadau llesiant lleol
(1)Rhaid i bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn ei ardal.
(2)Rhaid i bob bwrdd gyhoeddi’r asesiad ymhen dim mwy na blwyddyn cyn y dyddiad y mae cynllun llesiant lleol i’w gyhoeddi o dan is-adran (6) neu (7) o adran 39.
(3)Rhaid i asesiad—
(a)pennu’r ardaloedd r cymunedol sy’n ffurfio ardal y bwrdd;
(b)cynnwys dadansoddiad o gyflwr llesiant ym mhob ardal gymunedol ac yn yr ardal yn ei chyfanrwydd;
(c)cynnwys dadansoddiad o gyflwr llesiant y bobl yn yr ardal;
(d)cynnwys unrhyw ddadansoddiad pellach y mae’r bwrdd yn ei gynnal drwy gyfeirio at feini prawf a osodir ac a gymhwysir ganddo at ddiben asesu llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal neu mewn unrhyw gymuned o fewn yr ardal;
(e)cynnwys rhagfynegiadau o dueddiadau tebygol ar gyfer y dyfodol yn llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal;
(f)cynnwys unrhyw ddata a gwybodaeth ddadansoddol gysylltiedig arall y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol.
(4)Rhaid i ddadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (3)—
(a)cyfeirio at unrhyw ddangosyddion cenedlaethol a gyhoeddwyd o dan adran 10;
(b)cyfeirio at adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol o dan adran 11 i’r graddau y mae’n berthnasol i asesu llesiant yn yr ardal.
(5)Mae’r ardaloedd r cymunedol sy’n ffurfio ardal bwrdd i’w pennu—
(a)yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, neu
(b)os nad oes rheoliadau o’r fath wedi eu gwneud, gan y bwrdd.
(6)Caiff y dadansoddiad y cyfeirir ato yn is-adran (3)(c) gynnwys dadansoddiadau o gategorïau penodol o bersonau y penderfyna’r bwrdd arnynt drwy gyfeirio at—
(a)y ffaith bod personau’n hyglwyf neu o dan anfantais fel arall am yr un rhesymau neu am resymau tebyg;
(b)bod y personau’n meddu ar nodwedd warchodedig gyffredin o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15);
(c)bod y personau’n blant (personau o dan 18 oed);
(d)bod y personau’n bobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) fel y’u disgrifir yn adran 104 o’r Ddeddf honno;
(e)a yw’r personau—
(i)yn bersonau y gallai fod arnynt angen gofal a chymorth (fel y’u disgrifir yn Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4)); neu
(ii)yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal a chymorth i bersonau y gallai fod ei angen arnynt;
(f)unrhyw ffactor cyffredin arall y mae’r Bwrdd yn ei ystyried yn briodol wrth ddisgrifio categori o bersonau.
(7)Rhaid i bob bwrdd anfon copi o’i asesiad at—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)y Comisiynydd;
(c)Archwilydd Cyffredinol Cymru;
(d)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol.
38Paratoi asesiadau
(1)Cyn cyhoeddi ei asesiad o dan adran 37, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ymgynghori â’r canlynol—
(a)y Comisiynydd;
(b)cyfranogwyr gwadd y bwrdd;
(c)ei bartneriaid eraill;
(d)y cyfryw bersonau na wnaethant dderbyn gwahoddiad a gawsant gan y bwrdd o dan adran 30 ag y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;
(e)pwyllgor trosolwg a chraffu’r awdurdod lleol;
(f)unrhyw fudiad gwirfoddol perthnasol y mae’r bwrdd yn ei ystyried yn briodol;
(g)cynrychiolwyr personau sy’n preswylio yn ei ardal;
(h)cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yn ei ardal;
(i)undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yn ei ardal;
(j)y personau hynny sydd â diddordeb mewn cynnal a gwella adnoddau naturiol y mae’r bwrdd yn eu hystyried yn briodol;
(k)unrhyw bersonau eraill y mae ganddynt, ym marn y bwrdd, ddiddordeb mewn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal.
(2)Fel rhan o’r ymgynghoriad o dan is-adran (1), rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ddarparu drafft o’i asesiad i bob ymgynghorai.
(3)Wrth baratoi ei asesiad, rhaid i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ystyried pob un o’r canlynol—
(a)yr adroddiad sy’n cynnwys asesiad o’r risgiau i’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i effaith bresennol newid yn yr hinsawdd, a’r effaith a ragwelir, a anfonwyd yn fwyaf diweddar at Weinidogion Cymru o dan adran 56(6) o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 (p. 27);
(b)yr adolygiad diweddaraf o ddigonolrwydd y ddarpariaeth addysg feithrin ar gyfer yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd o dan adran 119(5)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31);
(c)yr asesiad diweddaraf o ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant yn yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 26(1) o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p.21);
(d)yr asesiad diweddaraf o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn yr ardal awdurdod lleol a gynhaliwyd o dan adran 11(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1);
(e)yr asesiad diweddaraf a gynhaliwyd gan yr awdurdod lleol ar y cyd â Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 14 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (asesu anghenion am ofal a chymorth, cymorth i ofalwyr a gwasanaethau ataliol);
(f)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37) sy’n ymwneud â lleihau trosedd ac anhrefn yn yr ardal awdurdod lleol;
(g)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal awdurdod lleol;
(h)yr asesiad strategol diweddaraf a baratowyd yn unol â rheoliadau o dan yr adran honno sy’n ymwneud â lleihau aildroseddu yn yr ardal awdurdod lleol;
(i)y cyfryw adolygiad neu asesiad arall mewn perthynas â’r ardal awdurdod lleol a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau (neu unrhyw ddadansoddiad arall a ddynodir mewn rheoliadau o’r fath fel adolygiad neu asesiad at ddiben yr adran hon).