Swyddogaethau’r Comisiynydd
19Swyddogaethau’r Comisiynydd
(1)Caiff y Comisiynydd, wrth gyflawni dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd—
(a)darparu cyngor neu gymorth i gorff cyhoeddus (gan gynnwys darparu cyngor ar newid hinsawdd);
(b)darparu cyngor i Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy;
(c)darparu cyngor neu gymorth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus ynghylch paratoi ei gynllun llesiant lleol (gweler adran 42);
(d)darparu cyngor neu gymorth i unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd camau (neu’n dymuno cymryd camau) a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;
(e)hybu’r arferion gorau ymhlith cyrff cyhoeddus wrth iddynt gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
(f)hyrwyddo ymwybyddiaeth ymysg cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
(g)annog cyrff cyhoeddus i gydweithio ac i weithio gyda phersonau eraill pe gallai hynny eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant;
(h)ceisio cyngor gan banel gynghori (gweler adran 26) mewn perthynas ag arfer unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r Comisiynydd.
(2)Caiff y Comisiynydd ymgymryd â gwaith ymchwil neu astudiaethau eraill mewn perthynas â’r canlynol—
(a)i ba raddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy,
(b)i ba raddau y mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei hystyried yn y dangosyddion cenedlaethol,
(c)yr egwyddor datblygu cynaliadwy ei hun (gan gynnwys sut y cymhwysir yr egwyddor i osod a chyflawni amcanion llesiant), a
(d)unrhyw beth sy’n gysylltiedig ag unrhyw un neu ragor o’r pethau hynny sy’n effeithio ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru (neu unrhyw ran o Gymru).
(3)Nid yw’r cyfeiriadau yn yr adran hon at ddarparu cymorth i gorff cyhoeddus yn cynnwys darparu cymorth ariannol.
20Adolygiadau gan y Comisiynydd
(1)Caiff y Comisiynydd gynnal adolygiad ynghylch i ba raddau y mae corff cyhoeddus yn diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion drwy ystyried effaith hirdymor y pethau y mae’r corff yn eu gwneud o dan adran 3.
(2)Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd adolygu—
(a)y camau y mae’r corff wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion llesiant;
(b)i ba raddau y mae’r corff yn cyflawni ei amcanion llesiant;
(c)a yw corff wedi gosod amcanion llesiant ac wedi cymryd camau i’w cyflawni yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
(3)Wrth gynnal adolygiad, rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i unrhyw ymchwiliad o’r corff a gynhelir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 15.
(4)Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd wneud argymhellion i’r corff cyhoeddus ynghylch—
(a)y camau y mae’r corff wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd er mwyn cyflawni ei amcanion llesiant;
(b)sut i osod amcanion llesiant a chymryd camau i’w cyflawni yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
(5)Caiff y Comisiynydd gynnal un adolygiad o ddau gorff cyhoeddus neu ragor.
(6)Rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi adroddiad ar adolygiad (gan gynnwys unrhyw argymhellion a wneir) ac anfon copi ohono at Weinidogion Cymru.
(7)Wrth gynnal adolygiad, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus ddarparu’r wybodaeth honno y mae’r Comisiynydd yn ei hystyried yn berthnasol i’r adolygiad.
(8)Ond nid yw’n ofynnol i gorff cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i’r Comisiynydd os yw’r corff wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.
21Argymhellion gan y Comisiynydd
(1)Wrth ddarparu cyngor neu gymorth i Weinidogion Cymru, caiff y Comisiynydd hefyd wneud argymhellion i’r Gweinidogion ynghylch y nodau llesiant neu’r dangosyddion cenedlaethol.
(2)Os yw’r Comisiynydd yn gwneud argymhellion o dan yr adran hon, rhaid i’r Comisiynydd gyhoeddi’r argymhellion hynny.
22Dyletswydd i ddilyn argymhellion
(1)Rhaid i gorff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol i ddilyn y ffordd o weithredu a nodir yn yr argymhellion a wneir iddo gan y Comisiynydd o dan adran 20(4) oni bai bod—
(a)y corff cyhoeddus yn fodlon bod rheswm da iddo beidio â dilyn yr argymhelliad mewn categorïau penodol o achosion neu o gwbl, neu
(b)yn penderfynu ar ddull gweithredu amgen mewn perthynas â phwnc yr argymhelliad.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff cyhoeddus eraill ynghylch sut i ymateb i argymhelliad a wneir gan y Comisiynydd.
(3)Wrth benderfynu sut i ymateb i argymhelliad o’r fath, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried canllawiau o’r fath.
(4)Rhaid i gorff cyhoeddus gyhoeddi ei ymateb i argymhelliad a wneir gan y Comisiynydd ac os nad yw’r corff yn dilyn argymhelliad, rhaid i’r ymateb gynnwys rheswm y corff dros wneud hynny ac egluro pa gamau gweithredu amgen, os o gwbl, y mae’n bwriadu eu cymryd.
23Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol
(1)Rhaid i’r Comisiynydd baratoi a chyhoeddi, cyn diwedd pob cyfnod adrodd, adroddiad sy’n cynnwys asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn gosod amcanion llesiant, a’u cyflawni, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
(2)Rhaid i adroddiad y Comisiynydd gynnwys, yn benodol, asesiad o sut y dylai cyrff cyhoeddus—
(a)gwella’r modd o ddiogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, a
(b)cymryd mwy o ystyriaeth o effaith hirdymor yr hyn a wnânt.
(3)Yn yr adran hon ac yn adran 24, y “cyfnod adrodd” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau gyda’r diwrnod ar ôl y diwrnod y cyhoeddir adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol o dan adran 11, a
(b)sy’n dod i ben ar y diwrnod cyn y dyddiad sydd flwyddyn union cyn y dyddiad y cynhelir y bleidlais yn yr etholiad cyffredinol nesaf o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
(4)Yn ogystal â’r asesiad a grybwyllir yn is-adran (1), rhaid i adroddiad o dan yr adran hon gynnwys y canlynol—
(a)crynodeb o’r dystiolaeth a gasglodd y Comisiynydd a’r gweithgareddau yr ymgymerodd y Comisiynydd â hwy yn ystod y cyfnod adrodd (gweler adran 24);
(b)crynodeb o’r adolygiadau a gynhaliwyd gan y Comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd (gweler adran 20);
(c)crynodeb o unrhyw gamau eraill a gymerodd y Comisiynydd yn ystod y cyfnod adrodd wrth arfer swyddogaethau’r Comisiynydd.
(5)Caiff adroddiad o dan yr adran hon gynnwys—
(a)adroddiad ar unrhyw waith ymchwil neu astudiaethau eraill yr ymgymerwyd â hwy o dan adran 19(2);
(b)unrhyw wybodaeth arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol.
(6)Rhaid i’r Comisiynydd anfon copi o adroddiad a gyhoeddir o dan yr adran hon at Weinidogion Cymru.
(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o adroddiad a anfonir atynt o dan is-adran (6) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r cyfnod adrodd drwy reoliadau.
24Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol: gweithgareddau yn ystod y cyfnod adrodd
(1)Yn ystod cyfnod adrodd (ond cyn i’r adroddiad o dan adran 23 gael ei gyhoeddi) rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori â’r canlynol—
(a)y panel cynghori (gweler adran 26);
(b)pob corff cyhoeddus;
(c)cynrychiolwyr mudiadau gwirfoddol yng Nghymru;
(d)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd camau (neu’n dymuno cymryd camau) a allai gyfrannu at gyrraedd y nodau llesiant;
(e)cynrychiolwyr personau sy’n preswylio ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru;
(f)cynrychiolwyr personau sy’n cynnal busnes yng Nghymru;
(g)undebau llafur sy’n cynrychioli gweithwyr yng Nghymru;
(h)unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ei ystyried yn briodol er mwyn sicrhau bod buddiannau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn cael eu cynrychioli'n llawn.
(2)Wrth baratoi adroddiad o dan adran 23 rhaid i’r Comisiynydd (yn ogystal ag ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan bersonau yr ymgynghorwyd â hwy o dan is-adran (1)) ystyried y canlynol—
(a)pob adroddiad llesiant blynyddol o dan adran 10(10) a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod adrodd;
(b)yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol a gyhoeddir o dan adran 11 ar y diwrnod cyn i’r cyfnod adrodd ddechrau;
(c)adroddiadau perthnasol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.