Datblygu cynaliadwy a dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus
2Datblygu cynaliadwy
Yn y Ddeddf hon, ystyr “datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (gweler adran 5), gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant (gweler adran 4).
3Dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus
(1)Rhaid i bob corff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy.
(2)Rhaid i weithredoedd corff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy gynnwys—
(a)gosod a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant, a
(b)cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny.
(3)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan osod amcanion mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.
(4)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â rhan o Gymru yn unig osod amcanion mewn perthynas â’r rhan honno neu unrhyw ran ohoni.
4Y nodau llesiant
Mae’r nodau llesiant wedi eu nodi a’u disgrifio yn Nhabl 1—
TABL 1
Nod | Disgrifiad o’r nod |
---|---|
Cymru lewyrchus. | Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas. |
Cymru gydnerth. | Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd). |
Cymru iachach. | Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol. |
Cymru sy’n fwy cyfartal. | Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd). |
Cymru o gymunedau cydlynus. | Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da. |
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. | Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden. |
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. | Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang. |
5Yr egwyddor datblygu cynaliadwy
(1)Yn y Ddeddf hon, mae unrhyw gyfeiriad at y ffaith bod corff cyhoeddus yn gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
(2)Er mwyn gweithredu yn y modd hwn, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried y pethau canlynol—
(a)pwysigrwydd cydbwyso anghenion y tymor byr gyda’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor, yn enwedig pan allai pethau a wneir i ddiwallu anghenion tymor byr gael effaith niweidiol yn yr hirdymor;
(b)yr angen i gymryd ymagwedd integredig, drwy ystyried—
(i)ym mha ffordd y gallai amcanion llesiant y corff effeithio ar bob un o’r nodau llesiant;
(ii)effaith amcanion llesiant y corff ar ei gilydd neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill, yn arbennig pan all camau a gymerir gan y corff gyfrannu at gyflawni un amcan ond y gall fod yn niweidiol i gyflawni un arall;
(c)pwysigrwydd cynnwys personau eraill sydd â diddordeb mewn cyrraedd y nodau llesiant a sicrhau bod y personau hynny’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth—
(i)Cymru (pan fo’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan), neu
(ii)y rhan o Gymru y mae’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi;
(d)ym mha ffordd y gallai cydlafurio ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r corff yn gweithio ar y cyd) gynorthwyo’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant, neu gynorthwyo corff arall i gyflawni ei amcanion;
(e)ym mha ffordd y gallai defnyddio adnoddau i atal problemau rhag digwydd neu waethygu gyfrannu at gyflawni amcanion llesiant y corff neu amcanion corff arall.
6Ystyr “corff cyhoeddus”
(1)At ddibenion y Rhan hon a Rhan 3 o’r Ddeddf hon, mae pob un o’r personau canlynol yn “gorff cyhoeddus”—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)awdurdod lleol;
(c)Bwrdd Iechyd Lleol;
(d)yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—
(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(ii)Felindre;
(e)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;
(g)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
(h)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
(i)Cyngor Celfyddydau Cymru;
(j)Cyngor Chwaraeon Cymru;
(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
(l)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
(2)Mae adran 52 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio ystyr “corff cyhoeddus”.
(3)Mae Pennod 1 o Ran 4 yn darparu bod personau sydd wedi eu rhestru fel cyrff cyhoeddus yn is-adran (1) (yn ogystal â phersonau penodol eraill sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) naill ai yn aelodau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir o dan y Rhan honno, neu’n gyfranogwyr gwadd neu’n bartneriaid eraill i fyrddau.