xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2GWELLA LLESIANT

Datblygu cynaliadwy a dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus

2Datblygu cynaliadwy

Yn y Ddeddf hon, ystyr “datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (gweler adran 5), gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant (gweler adran 4).

3Dyletswydd llesiant ar gyrff cyhoeddus

(1)Rhaid i bob corff cyhoeddus ymgymryd â datblygu cynaliadwy.

(2)Rhaid i weithredoedd corff cyhoeddus wrth ymgymryd â datblygu cynaliadwy gynnwys⁠—

(a)gosod a chyhoeddi amcanion (“amcanion llesiant”) sy’n cael eu cynllunio i sicrhau ei fod yn cyfrannu i’r eithaf at gyrraedd pob un o’r nodau llesiant, a

(b)cymryd pob cam rhesymol (wrth arfer ei swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny.

(3)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan osod amcanion mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.

(4)Caiff corff cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau mewn perthynas â rhan o Gymru yn unig osod amcanion mewn perthynas â’r rhan honno neu unrhyw ran ohoni.

4Y nodau llesiant

Mae’r nodau llesiant wedi eu nodi a’u disgrifio yn Nhabl 1—

TABL 1
NodDisgrifiad o’r nod
Cymru lewyrchus.Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
Cymru gydnerth.Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).
Cymru iachach.Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
Cymru sy’n fwy cyfartal.Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).
Cymru o gymunedau cydlynus.Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.

5Yr egwyddor datblygu cynaliadwy

(1)Yn y Ddeddf hon, mae unrhyw gyfeiriad at y ffaith bod corff cyhoeddus yn gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

(2)Er mwyn gweithredu yn y modd hwn, rhaid i gorff cyhoeddus ystyried y pethau canlynol—

(a)pwysigrwydd cydbwyso anghenion y tymor byr gyda’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor, yn enwedig pan allai pethau a wneir i ddiwallu anghenion tymor byr gael effaith niweidiol yn yr hirdymor;

(b)yr angen i gymryd ymagwedd integredig, drwy ystyried—

(i)ym mha ffordd y gallai amcanion llesiant y corff effeithio ar bob un o’r nodau llesiant;

(ii)effaith amcanion llesiant y corff ar ei gilydd neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill, yn arbennig pan all camau a gymerir gan y corff gyfrannu at gyflawni un amcan ond y gall fod yn niweidiol i gyflawni un arall;

(c)pwysigrwydd cynnwys personau eraill sydd â diddordeb mewn cyrraedd y nodau llesiant a sicrhau bod y personau hynny’n adlewyrchu amrywiaeth poblogaeth—

(i)Cymru (pan fo’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â Chymru gyfan), neu

(ii)y rhan o Gymru y mae’r corff yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â hi;

(d)ym mha ffordd y gallai cydlafurio ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r corff yn gweithio ar y cyd) gynorthwyo’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant, neu gynorthwyo corff arall i gyflawni ei amcanion;

(e)ym mha ffordd y gallai defnyddio adnoddau i atal problemau rhag digwydd neu waethygu gyfrannu at gyflawni amcanion llesiant y corff neu amcanion corff arall.

6Ystyr “corff cyhoeddus”

(1)At ddibenion y Rhan hon a Rhan 3 o’r Ddeddf hon, mae pob un o’r personau canlynol yn “gorff cyhoeddus”—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdod lleol;

(c)Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—

(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;

(ii)Felindre;

(e)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(f)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;

(g)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(h)Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

(i)Cyngor Celfyddydau Cymru;

(j)Cyngor Chwaraeon Cymru;

(k)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;

(l)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

(2)Mae adran 52 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio ystyr “corff cyhoeddus”.

(3)Mae Pennod 1 o Ran 4 yn darparu bod personau sydd wedi eu rhestru fel cyrff cyhoeddus yn is-adran (1) (yn ogystal â phersonau penodol eraill sy’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus) naill ai yn aelodau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus a sefydlir o dan y Rhan honno, neu’n gyfranogwyr gwadd neu’n bartneriaid eraill i fyrddau.