RHAN 7DARPARIAETH ATODOL YNGHYLCH SWYDDOGAETHAU CCAUC
Gwybodaeth arall etc sydd i’w rhoi gan CCAUC
I153Gwybodaeth a chyngor sydd i’w rhoi gan CCAUC i Weinidogion Cymru
1
Rhaid i CCAUC, os y’i cyfarwyddir i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth a chyngor sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
2
Caiff CCAUC roi i Weinidogion Cymru wybodaeth a chyngor arall sy’n ymwneud â hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch.