Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 2 addaswyd (1.9.2015) gan The Higher Education (Wales) Act 2015 (Consequential Provision) Order 2015 (O.S. 2015/1353), erglau. 1(2), 3
(1)Caiff CCAUC ddyroddi canllawiau ynghylch y camau sydd i’w cymryd at y diben o gydymffurfio â chyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu.
(2)Cyn dyroddi canllawiau o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC ymgynghori â chorff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig; a chaiff ymgynghori â chorff llywodraethu unrhyw sefydliad arall o fewn adran 2(3) sy’n briodol yn ei farn ef.
(3)Rhaid i gorff llywodraethu y mae cyfarwyddyd cydymffurfio ac ad-dalu wedi ei roi iddo, wrth gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dan yr adran hon.
(4)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu, gweler adrannau 41 i 44.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2A. 12 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(d)