RHAN 1CYFLWYNIAD

1Trosolwg o’r Ddeddf hon

(1)Mae wyth Rhan i’r Ddeddf hon.

(2)Mae’r Rhan hon yn cynnwys trosolwg o’r Ddeddf.

(3)Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ffioedd a mynediad. Mae’n ymdrin â—

(a)cynnwys cynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys terfyn ffioedd;

(b)methiant i gydymffurfio â therfyn ffioedd neu â gofyniad arall sydd wedi ei gynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad;

(c)dilysrwydd contractau penodol;

(d)monitro cynlluniau ffioedd a mynediad.

(4)Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y pwerau sydd ar gael at ddibenion asesu;

(b)y camau y caiff CCAUC eu cymryd mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonol.

(5)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch llunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)cydymffurfedd â’r cod;

(b)y pwerau sydd ar gael at ddibenion monitro cydymffurfedd â’r cod, ac mewn achos o fethu â chydymffurfio â’r cod.

(6)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau—

(a)pan gaiff CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd ar gyfer sefydliad;

(b)pan fo rhaid i CCAUC, neu pan gaiff CCAUC, dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad sefydliad.

(7)Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiadau a chyfarwyddydau a roddir gan CCAUC (gan gynnwys darpariaeth ynghylch adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol).

(8)Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch swyddogaethau CCAUC, gan gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chanllawiau, adroddiadau, gwybodaeth a chyngor.

(9)Mae Rhan 8 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch⁠—

(a)arfer pwerau i wneud rheoliadau;

(b)dehongli’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf.

(10)Mae’r Rhan honno hefyd yn cyflwyno Atodlen sy’n cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau presennol a darpariaeth drosiannol.