RHAN 1CYFLWYNIAD
1Trosolwg o’r Ddeddf hon
1
Mae wyth Rhan i’r Ddeddf hon.
2
Mae’r Rhan hon yn cynnwys trosolwg o’r Ddeddf.
3
Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau ffioedd a mynediad. Mae’n ymdrin â—
a
cynnwys cynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys terfyn ffioedd;
b
methiant i gydymffurfio â therfyn ffioedd neu â gofyniad arall sydd wedi ei gynnwys mewn cynllun ffioedd a mynediad;
c
dilysrwydd contractau penodol;
d
monitro cynlluniau ffioedd a mynediad.
4
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ansawdd yr addysg a ddarperir gan neu ar ran sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
y pwerau sydd ar gael at ddibenion asesu;
b
y camau y caiff CCAUC eu cymryd mewn cysylltiad ag addysg o ansawdd annigonol.
5
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch llunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
cydymffurfedd â’r cod;
b
y pwerau sydd ar gael at ddibenion monitro cydymffurfedd â’r cod, ac mewn achos o fethu â chydymffurfio â’r cod.
6
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau—
a
pan gaiff CCAUC wrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd ar gyfer sefydliad;
b
pan fo rhaid i CCAUC, neu pan gaiff CCAUC, dynnu’n ôl ei gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad sefydliad.
7
Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol ynghylch hysbysiadau a chyfarwyddydau a roddir gan CCAUC (gan gynnwys darpariaeth ynghylch adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol).
8
Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth atodol ynghylch swyddogaethau CCAUC, gan gynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chanllawiau, adroddiadau, gwybodaeth a chyngor.
9
Mae Rhan 8 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
a
arfer pwerau i wneud rheoliadau;
b
dehongli’r termau a ddefnyddir yn y Ddeddf.
10
Mae’r Rhan honno hefyd yn cyflwyno Atodlen sy’n cynnwys diwygiadau i ddeddfiadau presennol a darpariaeth drosiannol.