Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

RHAN 4LL+CMATERION ARIANNOL SEFYDLIADAU RHEOLEIDDIEDIG

Cod rheolaeth ariannolLL+C

27Dyletswydd CCAUC i lunio a chyhoeddi CodLL+C

(1)Rhaid i CCAUC lunio a chyhoeddi cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Cod”).

(2)Caiff y Cod wneud darpariaeth ynghylch y materion a ganlyn (ymhlith materion eraill)—

(a)yr amgylchiadau pan fo sefydliad rheoleiddiedig i ymrwymo i drafodiad o ddosbarth a bennir yn y Cod gyda chydsyniad CCAUC yn unig;

(b)trefniadau cyfrifyddu ac archwilio sefydliadau rheoleiddiedig;

(c)darparu gwybodaeth i CCAUC.

(3)Caiff darpariaeth yn y Cod fod ar ffurf gofyniad neu ganllawiau.

(4)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig—

(a)cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir gan y Cod;

(b)ystyried unrhyw ganllawiau sydd yn y Cod.

(5)Caiff CCAUC gyhoeddi’r Cod ym mha ffordd bynnag sy’n briodol yn ei farn ef.

(6)Rhaid i CCAUC—

(a)adolygu’r Cod yn gyson, a

(b)llunio a chyhoeddi Cod diwygiedig, os yw hynny’n briodol yn ei farn ef.

(7)Caiff y Cod wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol (gan gynnwys ar gyfer sefydliadau gwahanol a disgrifiadau gwahanol o sefydliad).

(8)At ddibenion y Rhan hon, nid yw’r Brifysgol Agored i’w thrin fel sefydliad rheoleiddiedig.

(9)Yn adrannau 28, 29 a 30, ystyr “y Cod cyntaf” yw’r Cod cyntaf i’w gyhoeddi o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I2A. 27(1) mewn grym ar 25.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(c)

I3A. 27(1) mewn grym ar 1.9.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2016/110, ergl. 4(a)

I4A. 27(2)(3)(7)(8) mewn grym ar 25.5.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 3(d)

I5A. 27(4) mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

I6A. 27(5)(6) mewn grym ar 1.9.2016 gan O.S. 2016/110, ergl. 4(b)

I7A. 27(9) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(i)

28Y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo Cod gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Cyn cyhoeddi’r Cod cyntaf neu God diwygiedig, rhaid i CCAUC—

(a)llunio drafft o’r Cod cyntaf neu’r Cod diwygiedig, a

(b)cyflwyno’r drafft i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo.

(2)Wrth lunio drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig, rhaid i CCAUC ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu pob sefydliad rheoleiddiedig, a

(b)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Rhaid i ddrafft a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)sy’n nodi’r rhesymau dros delerau’r drafft, a

(b)sy’n rhoi manylion yr ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (2) ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo CCAUC i gyflwyno drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig iddynt o dan yr adran hon cyn diwedd cyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd.

(5)Rhaid i CCAUC gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4).

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I9A. 28 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(i)

29Y weithdrefn os na chymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, neu o God diwygiedig, a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i CCAUC ynghylch y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i CCAUC o dan is-adran (2) eu bod wedi penderfynu peidio â chymeradwyo drafft o God diwygiedig, rhaid i CCAUC naill ai—

(a)cyflwyno drafft pellach o’r Cod diwygiedig i Weinidogion Cymru, neu

(b)rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru—

(i)yn datgan bod CCAUC wedi penderfynu peidio â pharhau â’r gwaith o ddiwygio’r Cod, a

(ii)yn nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(5)Caiff hysbysiad o dan is-adran (2) bennu cyfnod y mae rhaid, cyn diwedd y cyfnod hwnnw, i CCAUC gydymffurfio ag is-adran (3) neu (4) (fel y bo’n briodol).

(6)Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.

(7)Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)sy’n esbonio sut y mae CCAUC, wrth lunio’r drafft, wedi ystyried y rhesymau a nodwyd yn yr hysbysiad a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2),

(b)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, ac

(c)sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (6) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(8)Mae is-adrannau (2) i (7) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I11A. 29 mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(i)

30Y weithdrefn os cymeradwyir Cod drafft gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo drafft o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29, rhaid iddynt osod y drafft a gymeradwywyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2)Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o fewn y cyfnod o 40 niwrnod—

(a)ni chaiff CCAUC gyhoeddi’r drafft;

(b)os drafft o’r Cod cyntaf yw’r drafft, rhaid i CCAUC gyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf i Weinidogion Cymru;

(c)os drafft o God diwygiedig yw’r drafft, caiff CCAUC gyflwyno drafft pellach o God diwygiedig i Weinidogion Cymru.

(3)Cyn cyflwyno drafft pellach o’r Cod cyntaf neu o God diwygiedig i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon, rhaid i CCAUC gynnal unrhyw ymgynghoriad pellach sy’n briodol yn ei farn ef.

(4)Rhaid i ddrafft pellach a gyflwynir i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon gynnwys gydag ef adroddiad—

(a)sy’n nodi rhesymau CCAUC dros delerau’r drafft, a

(b)sy’n rhoi manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd o dan is-adran (3) mewn perthynas â’r drafft ac yn crynhoi’r sylwadau a gafodd CCAUC yn ystod yr ymgynghoriad.

(5)Y “cyfnod o 40 niwrnod” yw’r cyfnod o 40 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y gosodir y drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 40 niwrnod, nid yw unrhyw gyfnod pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu pan fo ar doriad am fwy na phedwar diwrnod i’w ystyried.

(7)Os na chaiff penderfyniad ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn y cyfnod o 40 niwrnod fel a grybwyllir yn is-adran (2), rhaid i CCAUC gyhoeddi’r Cod yn nhelerau’r drafft a gymeradwywyd.

(8)Os cyflwynir drafft pellach i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon—

(a)mae is-adrannau (1) i (7) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo’r drafft fel y maent yn gymwys os ydynt yn cymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28 neu 29;

(b)mae adran 29 yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft fel y mae’n gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a gyflwynir iddynt o dan adran 28.

Monitro cydymffurfedd â’r CodLL+C

31Monitro cydymffurfedd â’r CodLL+C

Rhaid i CCAUC fonitro, neu wneud trefniadau ar gyfer monitro, cydymffurfedd gan bob sefydliad rheoleiddiedig â’r gofynion a osodir gan y Cod.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 31 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I14A. 31 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Pwerau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r CodLL+C

32Methiant i gydymffurfio â’r Cod: cyffredinolLL+C

Mae adrannau 33 a 34 yn gymwys os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y Cod.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I16A. 32 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

33Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r CodLL+C

(1)Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i’r corff llywodraethu sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio neu atal methiant o’r fath.

(2)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I18A. 33 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

34Mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r CodLL+C

(1)Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i’r corff llywodraethu gyda golwg ar wella trefniadaeth neu reolaeth materion ariannol y sefydliad.

(2)Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i gydymffurfedd y sefydliad â’r Cod.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I20A. 34 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Cydweithredu o ran monitro etcLL+C

35Rheolaeth ariannol: dyletswydd i gydweithreduLL+C

(1)Rhaid i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig sicrhau y darperir i berson sy’n arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 31 neu 34 unrhyw wybodaeth, cymorth a mynediad i gyfleusterau’r sefydliad sy’n ofynnol yn rhesymol gan y person at y diben o arfer y swyddogaeth (gan gynnwys y diben o arfer unrhyw bŵer o dan adran 36).

(2)Os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio ag is-adran (1), caiff ei gyfarwyddo i gymryd (neu i beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o sicrhau’r ddarpariaeth o wybodaeth, cymorth neu fynediad fel y’i disgrifir yn yr is-adran honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I22A. 35 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2

Pwerau atodol at y diben o fonitro etcLL+C

36Rheolaeth ariannol: pwerau mynd i mewn ac arolyguLL+C

(1)At y diben o arfer swyddogaeth yn rhinwedd adran 31 neu 34(2), caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i mewn i fangre sefydliad rheoleiddiedig;

(b)edrych ar ddogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre, eu copïo neu eu cymryd.

(2)Yn is-adran (1)(b), mae cyfeiriadau at—

(a)dogfennau yn cynnwys gwybodaeth wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf;

(b)dogfennau y daw o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(i)dogfennau sydd wedi eu storio ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio electronig yn y fangre, a

(ii)dogfennau sydd wedi eu storio mewn man arall ond gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron yn y fangre.

(3)Mae’r pŵer a roddir gan is-adran (1)(b) yn cynnwys pŵer—

(a)i’w gwneud yn ofynnol i berson ddarparu dogfennau;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau sydd wedi eu storio’n electronig);

(c)i edrych ar gyfrifiadur y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arno neu ar ddyfais storio electronig y mae dogfennau wedi eu creu neu eu storio arni.

(4)Ni chaniateir i bŵer a roddir gan yr adran hon ond gael ei arfer ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol i gorff llywodraethu’r sefydliad rheoleiddiedig.

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i arfer pŵer os yw’r person awdurdodedig wedi ei fodloni—

(a)bod yr achos yn achos brys, neu

(b)y byddai cydymffurfio â’r is-adran honno yn tanseilio’r diben o arfer y pŵer.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi’n ysgrifenedig gan CCAUC (pa un ai yn gyffredinol neu’n benodol) i arfer y pwerau a roddir gan yr adran hon.

(7)Cyn arfer pŵer o dan yr adran hon, rhaid i berson awdurdodedig, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddangos copi o awdurdodiad y person o dan is-adran (6).

(8)O ran y pwerau a roddir gan yr adran hon—

(a)caniateir iddynt gael eu harfer ar adegau rhesymol yn unig;

(b)ni chaniateir iddynt gael eu harfer i’w gwneud yn ofynnol i berson wneud unrhyw beth ac eithrio ar adeg sy’n rhesymol.

(9)Nid yw’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys pŵer i fynd i mewn i annedd heb gytundeb y meddiannydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)

I24A. 36 mewn grym ar 1.8.2017 gan O.S. 2017/239, ergl. 2