xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4MATERION ARIANNOL SEFYDLIADAU RHEOLEIDDIEDIG

Pwerau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod

32Methiant i gydymffurfio â’r Cod: cyffredinol

Mae adrannau 33 a 34 yn gymwys os yw CCAUC wedi ei fodloni bod corff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y Cod.

33Cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod

(1)Caiff CCAUC roi cyfarwyddyd i’r corff llywodraethu sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd (neu beidio â chymryd) camau penodedig at y diben o ymdrin â’r methiant i gydymffurfio neu atal methiant o’r fath.

(2)Am y ddarpariaeth weithdrefnol ynghylch cyfarwyddydau o dan yr adran hon, gweler adrannau 41 i 44.

34Mesurau eraill mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod

(1)Caiff CCAUC roi cyngor neu gymorth i’r corff llywodraethu gyda golwg ar wella trefniadaeth neu reolaeth materion ariannol y sefydliad.

(2)Caiff CCAUC gynnal, neu drefnu i berson arall gynnal, adolygiad o unrhyw faterion y mae o’r farn eu bod yn berthnasol i gydymffurfedd y sefydliad â’r Cod.

(3)Rhaid i gorff llywodraethu ystyried unrhyw gyngor a roddir iddo o dan is-adran (1).