xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 2 addaswyd (1.9.2015) gan The Higher Education (Wales) Act 2015 (Consequential Provision) Order 2015 (O.S. 2015/1353), erglau. 1(2), 3
(1)Caiff corff llywodraethu sefydliad o fewn is-adran (3) wneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth CCAUC i gynllun ffioedd a mynediad arfaethedig sy’n ymwneud â’r sefydliad.
(2)Mae cynllun ffioedd a mynediad yn gynllun sy’n cydymffurfio ag adrannau 4 i 6.
(3)Mae sefydliad o fewn yr is-adran hon yn sefydliad yng Nghymru—
(a)sy’n darparu addysg uwch, a
(b)sy’n elusen.
(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I2A. 2(1)-(3) mewn grym ar 1.1.2016 gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(a)
I3A. 2(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(a)
I4A. 2(4) mewn grym ar 1.1.2016 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 6(a)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, yn dilyn cais gan ddarparwr addysg uwch o fewn is-adran (2), ddynodi’r darparwr at ddibenion yr adran hon.
(2)Mae darparwr addysg uwch o fewn yr is-adran hon yn ddarparwr—
(a)sy’n darparu addysg uwch yng Nghymru ac sy’n elusen, ond
(b)na fyddai (oni bai am y dynodiad) yn cael ei ystyried yn sefydliad at ddibenion y Ddeddf hon.
(3)Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (4)(d), mae darparwr addysg uwch a ddynodir o dan yr adran hon, oni bai bod y dynodiad wedi ei dynnu’n ôl, i’w drin, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, fel pe bai’n sefydliad.
(4)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)gwneud cais am ddynodiad;
(b)gwneud dynodiadau o dan yr adran hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i wneud dynodiad);
(c)tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth ynghylch y materion sydd i’w hystyried wrth benderfynu pa un ai i dynnu dynodiad yn ôl);
(d)effaith tynnu dynodiad yn ôl (gan gynnwys darpariaeth i ddarparwr y mae ei ddynodiad wedi ei dynnu’n ôl barhau i gael ei drin fel sefydliad at ddibenion rhagnodedig).
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 59(2)
I6A. 3(1)-(3) mewn grym ar 1.9.2015 gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(a)
I7A. 3(4) mewn grym ar 20.5.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1327, ergl. 2(b)
I8A. 3(4) mewn grym ar 1.9.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1327, ergl. 5(a)