RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Darpariaethau atodol

I196Cydweithredu mewn achosion penodol yn ymwneud â phlant

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo gan awdurdod tai lleol reswm i gredu y gallai ceisydd y mae person o dan 18 oed yn preswylio gydag ef fel arfer, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef—

a

bod yn anghymwys i gael cymorth,

b

bod yn ddigartref ac nad yw dyletswydd o dan adran 68, 73 neu 75 yn debygol o fod yn gymwys i’r ceisydd, neu

c

bod o dan fygythiad o ddigartrefedd ac nad yw dyletswydd o dan adran 66 yn debygol o fod yn gymwys i’r ceisydd.

2

Rhaid i awdurdod tai lleol wneud trefniadau i sicrhau—

a

bod y ceisydd yn cael ei wahodd i gydsynio i atgyfeirio’r ffeithiau hanfodol am ei achos i’r adran gwasanaethau cymdeithasol, a

b

os yw’r ceisydd wedi rhoi’r cydsyniad hwnnw, bod yr adran gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei hysbysu am y ffeithiau hynny ynghyd â phenderfyniad dilynol yr awdurdod mewn perthynas â’i gais.

3

Nid oes unrhyw beth yn is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer ar wahân i’r adran hon i ddatgelu gwybodaeth sy’n ymdrin ag achos y ceisydd i’r adran gwasanaethau cymdeithasol heb gydsyniad y ceisydd.

4

Rhaid i gyngor sir neu fwrdeistref sirol wneud trefniadau i sicrhau, pan fo’n penderfynu fel awdurdod tai lleol bod ceisydd yn anghymwys i gael cymorth, wedi dod yn ddigartref yn fwriadol neu wedi dod o dan fygythiad o ddigartrefedd yn fwriadol, fod ei adran dai yn rhoi’r cyfryw gyngor a chynhorthwy i’r adran gwasanaethau cymdeithasol ag y caiff yr adran gwasanaethau cymdeithasol ofyn yn rhesymol amdanynt.

5

Yn yr adran hon, mewn perthynas â chyngor sir neu fwrdeistref sirol—

  • ystyr “yr adran dai” (“the housing department”) yw’r personau hynny sy’n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau fel awdurdod tai lleol;

  • ystyr “yr adran gwasanaethau cymdeithasol” (“the social services department”) yw’r personau hynny sy’n gyfrifol am arfer ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol o dan Ran 3 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.