RHAN 2DIGARTREFEDD

PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Atgyfeirio at awdurdod tai lleol arall

80Atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—

(a)awdurdod tai lleol yn ystyried bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio at awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) wedi eu bodloni (gweler is-adran (3)), ac

(b)y byddai’r awdurdod tai lleol, os nad yw’r achos yn cael ei atgyfeirio, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 73 mewn perthynas â cheisydd sydd mewn angen blaenoriaethol am lety ac yn ddigartref yn anfwriadol (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref).

(2)Caiff yr awdurdod tai lleol hysbysu’r awdurdod arall am ei farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni mewn perthynas â’r ceisydd.

(3)Mae’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos i awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) wedi eu bodloni—

(a)os nad oes gan y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd gysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod y gwneir y cais iddo,

(b)os oes gan y ceisydd neu berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd gysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod arall hwnnw,

(c)os na fydd y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn resymol iddo breswylio gyda’r ceisydd yn wynebu’r perygl o camdriniaeth ddomestig yn yr ardal arall honno.

(4)Ond nid yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio a grybwyllir yn is-adran (3) yn cael eu bodloni —

(a)os yw’r ceisydd neu unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd wedi dioddef camdriniaeth (ac eithrio camdriniaeth domestig) yn ardal yr awdurdod arall, a

(b)mae’n debygol y bydd dychweliad y dioddefwr i’r ardal honno yn arwain at ragor o gamdriniaeth o natur debyg yn ei erbyn.

(5)Mae’r cwestiwn o pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni i’w penderfynu—

(a)drwy gytundeb rhwng yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu, neu

(b)yn niffyg cytundeb, yn unol â’r cyfryw drefniadau—

(i)ag y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo drwy orchymyn, pan fo’r ddau awdurdod yng Nghymru, neu

(ii)ag y caiff Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol eu cyfarwyddo ar y cyd drwy orchymyn, pan fo’r awdurdod sy’n hysbysu yng Nhgymru a’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn Lloegr.

(6)Caiff gorchymyn o dan is-adran (5) gyfarwyddo mai’r trefniadau fydd—

(a)y trefniadau hynny y cytunwyd arnynt gan unrhyw awdurdodau perthnasol neu gymdeithasau o awdurdodau perthnasol, neu

(b)yn niffyg cytundeb o’r fath, y cyfryw drefniadau ag yr ymddengys i Weinidogion Cymru neu, yn achos gorchymyn dan is-adran (5)(b)(ii), i Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol eu bod yn addas, ar ôl ymgynghori â’r cyfryw gymdeithasau sy’n cynrychioli awdurdodau perthnasol, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy.

(7)Yn is-adran (6), ystyr “awdurdod perthnasol” yw awdurdod tai lleol neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol; ac mae’n cynnwys, i’r graddau fod yr is-adran honno yn gymwys i drefniadau dan is-adran (5)(b)(ii), awdurdodau o’r fath yng Nghymru a Lloegr.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn yr amgylchiadau eraill hynny pan fo’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos at awdurdod lleol arall wedi eu bodloni a phan nad ydynt wedi eu bodloni.