RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Atgyfeirio at awdurdod tai lleol arall
80Atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall
1
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
a
awdurdod tai lleol yn ystyried bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio at awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) wedi eu bodloni (gweler is-adran (3)), ac
b
y byddai’r awdurdod tai lleol, os nad yw’r achos yn cael ei atgyfeirio, yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd yn adran 73 mewn perthynas â cheisydd sydd mewn angen blaenoriaethol am lety ac yn ddigartref yn anfwriadol (dyletswydd i gynorthwyo i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr digartref).
2
Caiff yr awdurdod tai lleol hysbysu’r awdurdod arall am ei farn bod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi eu bodloni mewn perthynas â’r ceisydd.
3
Mae’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos i awdurdod tai lleol arall (pa un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) wedi eu bodloni—
a
os nad oes gan y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd gysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod y gwneir y cais iddo,
b
os oes gan y ceisydd neu berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd gysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod arall hwnnw,
c
os na fydd y ceisydd nac unrhyw berson y gellid disgwyl yn resymol iddo breswylio gyda’r ceisydd yn wynebu’r perygl o camdriniaeth ddomestig yn yr ardal arall honno.
4
Ond nid yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio a grybwyllir yn is-adran (3) yn cael eu bodloni —
a
os yw’r ceisydd neu unrhyw berson y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gyda’r ceisydd wedi dioddef camdriniaeth (ac eithrio camdriniaeth domestig) yn ardal yr awdurdod arall, a
b
mae’n debygol y bydd dychweliad y dioddefwr i’r ardal honno yn arwain at ragor o gamdriniaeth o natur debyg yn ei erbyn.
5
Mae’r cwestiwn o pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni i’w penderfynu—
a
drwy gytundeb rhwng yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu, neu
b
yn niffyg cytundeb, yn unol â’r cyfryw drefniadau—
i
ag y caiff Gweinidogion Cymru eu cyfarwyddo drwy orchymyn, pan fo’r ddau awdurdod yng Nghymru, neu
ii
ag y caiff Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol eu cyfarwyddo ar y cyd drwy orchymyn, pan fo’r awdurdod sy’n hysbysu yng Nhgymru a’r awdurdod sy’n cael ei hysbysu yn Lloegr.
6
Caiff gorchymyn o dan is-adran (5) gyfarwyddo mai’r trefniadau fydd—
a
y trefniadau hynny y cytunwyd arnynt gan unrhyw awdurdodau perthnasol neu gymdeithasau o awdurdodau perthnasol, neu
b
yn niffyg cytundeb o’r fath, y cyfryw drefniadau ag yr ymddengys i Weinidogion Cymru neu, yn achos gorchymyn dan is-adran (5)(b)(ii), i Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol eu bod yn addas, ar ôl ymgynghori â’r cyfryw gymdeithasau sy’n cynrychioli awdurdodau perthnasol, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy.
7
Yn is-adran (6), ystyr “awdurdod perthnasol” yw awdurdod tai lleol neu awdurdod gwasanaethau cymdeithasol; ac mae’n cynnwys, i’r graddau fod yr is-adran honno yn gymwys i drefniadau dan is-adran (5)(b)(ii), awdurdodau o’r fath yng Nghymru a Lloegr.
8
Caiff Gweinidogion Cymru bennu drwy orchymyn yr amgylchiadau eraill hynny pan fo’r amodau ar gyfer atgyfeirio’r achos at awdurdod lleol arall wedi eu bodloni a phan nad ydynt wedi eu bodloni.