RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 2CYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD
Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyr
76Amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben
1
Mae’r ddyletswydd i geisydd o dan adran 75(1) yn dod i ben o dan unrhyw un o’r amgylchiadau a ddisgrifir yn is-adrannau (2), , (6) neu (7), os yw’r ceisydd wedi ei hysbysu yn unol ag adran 84.
2
Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd yn derbyn—
a
cynnig o lety addas o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu tai), neu
b
cynnig o lety addas o dan denantiaeth sicr (gan gynnwys tenantiaeth fyrddaliol sicr).
3
Yr amgylchiadau yw bod y ceisydd, ar ôl derbyn hysbysiad ysgrifenedig am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod—
a
cynnig o lety interim addas o dan adran 75,
b
cynnig sector rhentu preifat, neu
c
cynnig o lety o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996,
y mae’r awdurdod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer y ceisydd.
4
At ddibenion yr adran hon mae cynnig yn gynnig sector rhentu preifat—
a
os yw’n gynnig o denantiaeth fyrddaliol sicr gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw lety sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu,
b
os yw’n cael ei wneud, gyda chymeradwyaeth yr awdurdod, yn unol â threfniadau a wneir rhwng yr awdurdod a’r landlord gyda’r nod o ddod â dyletswydd yr awdurdod o dan adran 75 i ben, ac
c
mae’r denantiaeth sy’n cael ei chynnig yn denantiaeth cyfnod penodedig am gyfnod o 6 mis o leiaf.
5
Mewn achos cyfyngedig, rhaid i’r awdurdod tai lleol, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ddwyn ei ddyletswydd i ben drwy sicrhau cynnig sector rhentu preifat; at y diben hwn, ystyr “achos cyfyngedig” yw achos pan na fyddai awdurdod tai lleol yn fodlon fel a grybwyllir yn adran 75(1) heb roi sylw i berson cyfyngedig (gweler adran 63(5)).
6
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref yn fwriadol o lety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—
a
o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu
b
o dan adran 75.
7
Yr amgylchiadau yw bod yr awdurdod tai lleol yn fodlon bod y ceisydd wedi rhoi’r gorau yn wirfoddol i feddiannu, fel ei brif neu ei unig gartref, llety interim addas y sicrhawyd ei fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu—
a
o dan adran 68 ac y parheir i sicrhau ei fod ar gael o dan adran 75, neu
b
o dan adran 75.
8
Gweler adran 79 am amgylchiadau pellach pan fo’r ddyletswydd yn adran 75(1) yn dod i ben.
9
Yn yr adran hon mae i “tenantiaeth tymor penodedig” yr ystyr a roddir gan Ran 1 o Ddeddf Tai 1988.