RHAN 2LL+CDIGARTREFEDD

PENNOD 2LL+CCYMORTH I BOBL SY’N DDIGARTREF NEU O DAN FYGYTHIAD O DDIGARTREFEDD

Dyletswyddau i gynorthwyo ceiswyrLL+C

70Angen blaenoriaethol am letyLL+C

(1)Mae gan y personau canlynol angen blaenoriaethol am lety at ddibenion y Bennod hon—

(a)menyw feichiog neu berson y mae’n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef;

(b)person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(c)person—

(i)sy’n hyglwyf o ganlyniad i reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(d)person—

(i)sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(e)person—

(i)sy’n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio’r sawl sy’n cam-drin) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(f)person—

(i)sy’n 16 neu’n 17 oed pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(g)person—

(i)sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, sy’n wynebu perygl arbennig o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio camfanteisiwr neu gamfanteisiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(h)person—

(i)sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo’r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(i)person—

(i)sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu

(ii)y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef;

(j)person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy’n hyglwyf o ganlyniad i un o’r rhesymau canlynol—

(i)bod wedi bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 [F1neu adran 222 o'r Cod Dedfrydu] ,

(ii)bod wedi ei remandio mewn carchar neu ei draddodi i garchar gan orchymyn llys, neu

(iii)bod wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012,

[F2(k)person—

(i)sy’n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu

(ii)y gellid disgwyl yn rhesymol i berson sy’n dod o fewn is-baragraff (i) breswylio gydag ef.]

neu berson y mae person o’r fath yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef.

(2)Yn y Bennod hon—

  • ystyr “yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu’n cael ei faethu” (“looked after, accommodated or fostered”) yw—

    (a)

    yn derbyn gofal gan awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu adran 22 o Ddeddf Plant 1989),

    (b)

    yn cael ei letya gan gorff gwirfoddol, neu ar ran corff gwirfoddol,

    (c)

    yn cael ei letya mewn cartref plant preifat,

    (d)

    yn cael ei letya am gyfnod di-dor o dri mis o leiaf—

    (i)

    gan unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol neu Awdurdod Iechyd Arbennig,

    (ii)

    gan [F3fwrdd gofal integredig] l neu [F4GIG Lloegr] , neu ar eu rhan,

    (iii)

    gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru wrth arfer swyddogaethau addysg, neu ar ran y cyngor,

    (iv)

    gan awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer swyddogaethau addysg, neu ar ei ran,

    (v)

    mewn unrhyw gartref gofal neu ysbyty annibynnol, neu

    (vi)

    mewn unrhyw lety a ddarperir gan un neu ragor o Ymddiriedolaethau’r GIG, neu ar eu rhan, neu gan un neu ragor o Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG, neu ar eu rhan, neu

    (e)

    yn cael ei faethu yn breifat (o fewn ystyr adran 66 o Ddeddf Plant 1989).

(3)Yn is-adran (2)—

  • ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—

    (a)

    cyngor sir yn Lloegr,

    (b)

    cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr lle nad oes cyngor sir,

    (c)

    cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu

    (d)

    Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;

  • [F5“ystyr “bwrdd gofal integredig” (“integrated care board”) yw corff a sefydlir o dan adran 14Z25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;]

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • [F6O ran “cartref gofal” (“care home”)—

    (a)

    mae iddo’r un ystyr ag a roddir i “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â chartref gofal yn Lloegr, a

    (b)

    ei ystyr yw man yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (dccc 2) yn cael ei ddarparu;]

  • F7...

  • mae i “swyddogaethau addysg” (“education functions”) yr ystyr a roddir gan adran 597(1) o Ddeddf Addysg 1996;

  • ystyr “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”)—

    (a)

    mewn perthynas â Chymru, yw ysbyty annibynnol o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac

    (b)

    mewn perthynas â Lloegr, yw ysbyty, fel y’i diffinnir gan adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, nad yw’n ysbyty’r gwasanaeth iechyd (“health service hospital”) o fewn yr ystyr a roddir i’r ymadrodd gan yr adran honno.