RHAN 2DIGARTREFEDD
PENNOD 1ADOLYGIADAU A STRATEGAETHAU DIGARTREFEDD
I1I251Adolygiadau digartrefedd
1
Rhaid i adolygiad digartrefedd o dan adran 50 gynnwys adolygiad o’r canlynol—
a
lefelau digartrefedd, a lefelau tebygol digartrefedd yn y dyfodol, yn ardal yr awdurdod tai lleol;
b
y gweithgareddau a gynhelir yn ardal yr awdurdod tai lleol i gyflawni’r amcanion canlynol (neu sy’n cyfrannu at eu cyflawni)—
i
atal digartrefedd;
ii
bod llety addas ar gael, neu y bydd ar gael, i bobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref;
iii
bod cefnogaeth foddhaol ar gael ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu y gallent ddod yn ddigartref;
c
yr adnoddau sydd ar gael i’r awdurdod (gan gynnwys adnoddau sydd ar gael wrth arfer swyddogaethau heblaw fel awdurdod tai lleol), awdurdodau cyhoeddus eraill, cyrff gwirfoddol a phersonau eraill ar gyfer gweithgareddau o’r fath.
2
Ar ôl cwblhau adolygiad digartrefedd, rhaid i awdurdod tai lleol gyhoeddi canlyniadau’r adolygiad drwy—
a
sicrhau bod canlyniadau’r adolygiad ar gael ar ei wefan (os oes ganddo un);
b
sicrhau bod copi o ganlyniadau’r adolygiad ar gael yn ei brif swyddfa i’r cyhoedd gael eu gweld ar bob adeg resymol, a hynny’n ddi-dâl;
c
darparu copi o’r canlyniadau hynny i unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n gofyn am un (ar ôl talu ffi resymol os yw hynny’n ofynnol gan yr awdurdod).