Deddf Tai (Cymru) 2014

34Pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag adrannau 32 a 33LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud y gyfryw ddarpariaeth ag a ystyrir yn briodol ganddynt ar gyfer ategu darpariaethau adrannau 32 a 33.

(2)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (1), er enghraifft, wneud darpariaeth—

(a)ar gyfer sicrhau nad yw personau wedi eu niweidio’n annheg gan orchmynion ad-dalu rhent (mewn achosion pan fo gordaliadau o gredyd cynhwysol neu fudd-dal tai wedi digwydd neu fel arall);

(b)i’w gwneud yn ofynnol i ymdrin â symiau a dderbynnir gan yr awdurdod trwyddedu neu awdurdodau tai lleol yn rhinwedd gorchmynion ad-dalu rhent mewn modd a bennir yn y rheoliadau, neu i awdurdodi hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 34 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2