RHAN 1RHEOLEIDDIO TAI RHENT PREIFAT
Gorfodi
I1I3I230Gorchmynion atal rhent
1
Caiff tribiwnlys eiddo preswyl, yn unol â’r adran hon, wneud gorchymyn (“gorchymyn atal rhent”) mewn perthynas ag annedd sy’n ddarostyngedig i denantiaeth ddomestig ar gais a wnaed iddo gan—
a
yr awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi, neu
b
yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd wedi ei lleoli ynddi.
2
Ond ni chaiff awdurdod tai lleol wneud cais o dan is-adran (1) heb gydsyniad yr awdurdod trwyddedu a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran honno (oni bai mai ef yw’r awdurdod trwyddedu); a chaiff cydsyniad at y diben hwnnw gael ei roi yn gyffredinol neu mewn cysylltiad â chais penodol.
3
Pan fo tribiwnlys yn gwneud gorchymyn atal rhent—
a
mae taliadau cyfnodol sy’n daladwy mewn cysylltiad â thenantiaeth ddomestig o’r annedd sy’n ymwneud â chyfnod, neu ran o gyfnod, sy’n dod o fewn dyddiad a bennir yn y gorchymyn (y “dyddiad atal”) a dyddiad a bennir gan y tribiwnlys pan fydd y gorchymyn wedi ei ddirymu (gweler adran 31(4)) yn cael eu hatal,
b
mae rhwymedigaeth o dan denantiaeth ddomestig i dalu swm a atelir gan y gorchymyn yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei bodloni,
c
mae pob hawl a rhwymedigaeth arall o dan denantiaeth o’r fath yn parhau heb eu heffeithio,
F1ca
mae swm unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan adran 87 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (digolledu oherwydd methiannau yn ymwneud â darparu datganiadau ysgrifenedig etc.) i’w gyfrifo fel pe na bai’r gorchymyn atal rhent wedi ei wneud,
d
rhaid i unrhyw daliadau cyfnodol a atelir gan y gorchymyn ond a wnaed gan denant yr annedd (pa un ai cyn neu ar ôl y dyddiad atal) gael eu had-dalu gan y landlord, ac
e
rhaid i’r awdurdod a wnaeth y cais am y gorchymyn roi copi ohono i’r canlynol—
i
landlord yr annedd y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi;
ii
tenant yr annedd.
4
Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn atal rhent dim ond os yw wedi ei fodloni o ran y materion a grybwyllir yn is-adrannau (5) a (6).
5
Rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni bod trosedd yn cael ei chyflawni o dan adran 7(5) neu 13(3) mewn perthynas â’r annedd (pa un a oes person wedi ei gollfarnu neu ei gyhuddo mewn perthynas â’r drosedd ai peidio).
6
Rhaid i’r tribiwnlys fod wedi ei fodloni—
a
bod yr awdurdod sy’n gwneud y cais am y gorchymyn wedi rhoi hysbysiad i landlord a thenant yr annedd ( “hysbysiad o achos arfaethedig”)—
i
yn esbonio bod yr awdurdod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn atal rhent,
ii
yn nodi’r rhesymau pam y mae’n bwriadu gwneud hynny,
iii
yn esbonio effaith gorchymyn atal rhent,
iv
yn esbonio sut y gellir dirymu gorchymyn atal rhent, a
v
yn achos hysbysiad a roddir i landlord, gwahodd y landlord i gyflwyno sylwadau i’r awdurdod o fewn cyfnod o ddim llai na 28 o ddiwrnodau a bennir yn yr hysbysiad,
b
bod y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau wedi dod i ben, ac
c
bod yr awdurdod wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed iddo gan y landlord o fewn y cyfnod hwnnw.
7
Ni chaiff y tribiwnlys bennu dyddiad atal at ddiben is-adran (3)(a) sy’n dod cyn y dyddiad y gwnaed y gorchymyn atal rhent.
8
Mae swm sy’n daladwy yn rhinwedd is-adran (3)(d) nad yw’n cael ei ad-dalu yn adferadwy gan y tenant fel dyled sy’n ddyledus i’r tenant gan y landlord.
9
Yn is-adran (5), nid yw’r cyfeiriad at drosedd a gyflawnwyd o dan adran 13(3) yn cynnwys trosedd a gyflawnwyd o ganlyniad i dorri is-adran (1) o’r adran honno.